Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i geisio meddyginiaethu rhyw afiechyd oedd arno; ond yn lle gwellhad, angeu a'i cludodd i'w garchar tywyll hyd fore mawr yr adgyfodiad.

Thomas Griffith (tad y godidog fardd, Dafydd Thomas,) oedd ŵr o gydeddfau cryfion, craff ei olwg ar y wir athrawiaeth. Byddai yn arfer cynghori ei gyd-bechaduriaid yn achlysurol i gilio oddiwrth ddrygioni, ac i ffoi i'r wir noddfa. John Williams, Llandegai, a fu yn ddefnyddiol iawn hir flynyddoedd, yn cynal gair y, bywyd heb ddiffygio, yn wyneb llawer o ddigalondid. Bu dros amser maith yn derbyn pregethwyr i'w dŷ heb gynorthwy neb. Yr oedd yn llenwi lle mawr yn ei ardal, yn enwedig yn yr eglwys; bu farw yn nghanol ei ddyddiau, er galar a cholled i lawer, ac ni lanwyd ei le yn gwbl gan neb hyd yma.

Griffith Thomas, o Dremadoc, a alwyd i'r winllan yn ieuangc; preswyliodd yn Llundain amryw flynyddau; yno y dechreuodd bregethu. Amharwyd ei iechyd; daeth i'w wlad, a threuliodd weddill ei ddyddiau yn ddiwyd a ffyddlon yn ngwaith yr Arglwydd nes ei aeddfedu i'r wlad lle na ddywed y preswylydd, Claf ydwyf.

YMOF. Yr wyf yn rhwymedig iawn i chwi, fy nghyfaill caredig, am gyfodi, megys o fedd anghof, goffadwriaeth am gynifer o'r hen bererinion, pa rai a ddygasant bwys y dydd a'r gwrês. A oes neb eto heb i chwi grybwyll am danynt, ag y byddai yn annheilwng gollwng eu coffadwriaeth i dir anghof?

SYL. Gwnaethoch yn dda gofio. Daeth un John Morgans, o'r Deheudir, yn gurad i Lanberis; byddai cryn lawer yn cyrchu i wrando arno: ac er nad oedd ei wybodaeth na'i ddoniau yn ardderchog, eto gellir barnu fod 'ei amcan am ddyrchafu Crist, ac achub pechaduriaid. Ymddangosodd yn fwy amlwg gyda chrefydd yn ei hen ddyddiau. Mae yn debyg y cafwyd ynddo beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel. Yr oedd yn ficar yn Nghlynog, un gŵr eglwysig tra enwog, y Parchedig Richard Nanney, o ymarweddiad hynaws a thirion. Cyfrifid ef, fel pregethwr, yn rhagori ar y rhan fwyaf o'i frodyr urddasol: nid oedd gofalon bydol yn cael nemawr o le ar ei feddyliau; oblegyd nid adwaenai ei anifeiliaid ei hun, ond yr un a fyddai efe yn ei farchogaeth. Ond O! er mor foesol a phrydferth oedd ei ymddygiad yn ystod ei fywyd, eto nid oedd pelydr yr efengyl, na'r anadl oddiwrth y pedwar gwynt yn effeithioli ei weinidogaeth i gyrhaedd calonau ei wrandawyr yr holl amser hyn: ond yn niwedd ei ddyddiau, cododd goleuni yn yr hwyr, daeth arddeliad amlwg ar ei weinidogaeth; a bu fel dyferiad diliau mêl i lawer o eneidiau trallodedig. Ymgasglai lluaws mawr o amryw blwyfydd i wrando