Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arno nes y byddai eglwys fawr Clynog bron yn haner llawn: byddai raid ei gynorthwyo i'r pwlpud rai gweithiau o achos ei henaint a'i lesgedd. Ar ol pregethu eisteddai i lawr yn y pwlpud i aros i'r gynulleidfa ganu Salm neu hymn, a byddai yn fynych dywalltiadau o orfoledd yr iachawdwriaeth yn gorlenwi calonau llawer o'r gwrandawyr nes y byddai y deml fawr yn adseinio yn beraidd o haleluiah i Dduw a'r Oen. Bu farw y gŵr parchedig hwn yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, dros 80 mlwydd oed.

YMOF. Gadewch gael clywed genych, cyn ymadael, ryw ychydig o hanes y Gymdeithas Genadol, ag sydd, fel ag yr wyf yn clywed, yn fendith fawr trwy amryw barthau o'r byd.

SYL. Mae hon, a'r Fibl Gymdeithas Frutanaidd a Thramor, fel y ddau udgorn arian, eisoes wedi bod yn foddion i ddeffrôi llawer; ac yn myned rhagddynt yn llwyddiannus i chwalu y tywyllwch o'u blaen: ac er nad ydyw eto ond megys gwawr bore, er hyny gan fod eu tarddiad oddiwrth haul cyfiawnder, diau yr ânt rhagddynt oleuach, oleuach, nes elo teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef. Soniwyd o'r blaen am Gymdeithas y Biblau, a'i defnyddioldeb. Am y Gymdeithas Genadawl, nid rhaid dywedyd llawer, gan fod cymaint eisoes o'i hanes yn argraffedig; ffurfiwyd hi yn Llundain yn y flwyddyn 1795. Treuliodd y gwir Gristionogion flynyddau lawer yn dra anystyriol o gyflwr gresynol y paganiaid tywyll, eulunaddolgar, oedd yn cael eu cludo gan Satan yn filiynau tros y geulan i ddistryw tragywyddol: ond o'r diwedd cyffrôdd Duw feddyliau ei bobl fel na allent gysgu yn hwy heb gynyg wynebu ar rhyw lwybr tuag at eu dwyn o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw.

Y Morafiaid, yn flaenorol i bawb, a anturiasant gynyg yr efengyl i drigolion tywyll Greenland, a manau ereill. Dyoddefasant lawer o galedi a chyfyngderau mawrion: ond llwyddodd Duw eu llafur a'u hymdrechiadau i fod yn fendith i lawer. Nid wyf fi yn deall i neb arall gynhyrfu fawr yn achos y trueiniaid di-Dduw, sef y paganiaid, nes y cododd yr Arglwydd y Gymdeithas Genadol; er fod amryw yn ymofidio yn eu hachos, ac yn gweddïo drostynt; ond nid oeddynt yn gweled un llwybr yn ymddangos trwy ba un y gellid gwneyd dim yn rhagor iddynt; ond pan sefydlwyd y Gymdeithas uchod, ffurfiwyd trefn yn mysg aelodau y Gymdeithas, yn gyntaf, i gadw cyfarfod blynyddol yn Llundain, i roddi prawf a ellid cael modd i anfon yr efengyl at drueiniaid oedd yn cael eu dyfetha o eisiau gwybodaeth. Cawsant yn fuan le i hyderu y llwyddai yr Arglwydd eu hamcanion; casglwyd cyn hir dair mil o bunnau at yr achos tra angenrheidiol hwn. Yn yr ail gyfarfod yr