Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd lluaws mawr o weinidogion o amryw enwau, megys Eglwyswyr, Annibynwyr, Presbyteriaid, Methodistiaid, &c., a'r gwrandawyr yn dra lluosog, oblegyd fe bregethodd pedwar o weinidogion yn y cyfarfod hwnw, yn mysg ereill, Mr. Jones, o Langan. Yr oedd y casgliad, erbyn hyn, wedi helaethu i ddeng mil o bunnau. Tueddwyd 28, neu ragor, i anturio tros y moroedd meithion, i'r ynysoedd sydd yn Môr y Dehau, sef Otaheite, &c., ac yn eu mysg un Cymro, sef John Davies, o Sir Drefaldwyn. Bu ef a'i frodyr o fendith i lawer yno, ac yn yr ynysoedd ereill cyfagos; er eu bod am hir amser mewn digalondid mawr, ac yn goddef llawer iawn o galedi; a'u gofid mwyaf oedd gweled mor lleied o lwyddiant ar eu hymdrechiadau. Ond er hau mewn dagrau amser maith, y maent yn medi mewn llawenydd yn bresennol. Y mae yr anialwch gwag erchyll wedi myned yn ddoldir; y rhith-dduwiau wedi eu llosgi yn tân; yr allorau wedi eu distrywio, a thai addoliad i'r gwir Dduw yn cael eu hadeiladu. Brenin Otaheite hefyd wedi dyfod i gofleidio y grefydd Gristionogol. Nid yno yn unig y mae y gwaith gogoneddus hwn yn llwyddo, ond hefyd mewn amryw barthau o Affrica baganaidd, sef yn mysg yr Hottentotiaid, y Caffrariaid aflan a chreulon, yn nghydag ynys Lattacoo, a'i brenin, oedd mor anwybodus na welsent un math o lyfr erioed. Y mae yn agos i China lafur a diwydrwydd mawr yn cyfieithu y Testament Newydd, a rhanau o'r Hen, i iaith yr ymerodraeth hono, er gwaethaf yr ymerawdwr creulon; ac y maent yn cael eu darllen gyda blas gan amryw yn y wlad hòno. Y mae hefyd yn yr India Ddwyreiniol lwyddiant neillduol ar lafur cenadau yn cyfieithu yr ysgrythyrau i amryw ieithoedd, y gwledydd meithion hyny sydd a'u trigolion yn aneirif o luosogrwydd. Ni bydd i mi ymhelaethu ar hyn yn bresennol, gan hyderu y bydd i'r hyn a adroddwyd godi awydd ynoch i ddarllen hanesion helaethach sydd yn argraffedig eisoes.

YMOF. Fe allai fod rhywbeth eto ar eich meddwl, y byddai yn fuddiol ei goffâu.

SYL. Chwi a wyddoch, er fod ein gwlad wedi ei dyrchafu hyd y nef o ran breintiau, fod gormodedd o blant, ac ereill, yn ddiarswyd yn halogi y Sabbath. Adroddaf hanes byr am ddau blentyn a ddaethant i ddiwedd dychrynllyd wrth halogi dydd yr Arglwydd. Yn agos i Gapel Curig, byddai plant yr ardal yn arfer ymgynull i ryw ofer-gampau ar y Sabbath; ond yn nghanol eu hynfydrwydd rhyfygus syrthiodd careg fawr o ochr y ffordd, a lladdodd un o honynt yn farw. Bryd arall, yr oedd bachgen yn dringo i olwyn oedd yn perthyn i waith mwn, ac yn ddisymwth trôdd yr olwyn nes gwasgu ei ben rhyngddi a'r