Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mur, a dryllio ei esgyrn, a bu farw yn y fan. Bydded i blant ac ereill, oddiwrth yr esiamplau hyn, feddwl am gofio cadw yn sanctaidd y dydd Sabbath.

Yn gymaint a bod, yn mhob oes o'r byd, rai dynion yn meddu tymher haelionus ac elusengar, ac ereill yn dra chreulon ac annhrugarog, adroddaf i chwi hanes nodedig am ŵr cyfoethog, a haelionus iawn i'r tlodion, oedd yn byw yn Ysgeifiog, yn Sir Filint, tua'r flwyddyn 1739. Dygwyddodd, yn ei amser of, dymhor o gyfyngder mawr ar dlodion, ie, braidd newyn: ond po mwyaf oedd y. wasgfa ar y tlodion, mwyaf yr oedd yntau yn ymhelaethu i dosturio. Yr oedd ganddo, yn y cyfamser, faes o bys, a phan ddechreuodd aeddfedu, parodd gyhoeddi trwy yr holl ardaloedd, fod cenad i dlodion yr holl gymydogaethau gasglu faint a fynent o'r pys, a byddai lluoedd dirfawr bob dydd yn ymborthi arnynt. Wedi dyfod y cynauaf i mewn, cafodd pawb ddigonedd o fara.

Yn mhen amser gorchymynodd y meistr gasglu y gwellt ynghyd, gan feddwl nad oedd dim o'r ffrwyth wedi ei adael ar ol y tlodion; ond ar ol ei ddyrnu, cafwyd cymaint o bys ag a fyddai arferol fod flwyddyn arall. Ond er maint oedd ef yn ei gyfranu, cynyddu fwyfwy yr oedd ei gyfoeth yn feunyddiol. Yn fuan ar ol hyny priodwyd y gŵr âg un oludos o ran cyfoeth, gyfaddas iddo ei hun; wedi i hon ddechreu llywodraethu y tŷ, edrychodd yn gilwgus ar y fail fawr, â pha un y rhenid cardodau y tlodion: taflodd hòno heibio yn ebrwydd, a thrôdd allan mor annhrugarog a chybyddlyd, fel o'r diwedd nad oedd yn werth amser i'r tlawd alw wrth ei drws. Ond nid hir y bu y farn heb eu goddiweddyd yn amlwg; bu farw eu hanifeiliaid; ehedodd eu cyfoeth oddi wrthynt fel aderyn, a darostyngwyd hwynt, cyn diwedd eu hoes, i dlodi dirfawr. Nid oes un rheswm i'w roddi am hyn ond geiriau Solomon, "Rhyw un a wasgar ei dda, ac fo chwanegir iddo: rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi."

Y mae chwant arnaf, cyn i mi eich gadael, grybwyll am eneth amddifad ag oedd yn byw gyda rhai o'i pherthynasau yn Nolyddelen. Cafodd genad un tro i fyned i ymweled âg ereill o'i pherthynasau encyd o ffordd oddiyno. Ond ar ei dychweliad adref, tarawodd wrth blant ar y ffordd, a threuliodd ei hamser gyda y rhai hyny, heb gofio am y nos, a'r daith oedd o'i blaen. Wedi cychwyn, aeth yn dywyll, ac yr oedd yr eira yn gorchuddio y ddaear: dyrysodd, a chollodd y ffordd, a daeth o'r diwedd at afon; methodd fyned trwy hono heb wlychu hyd ei gwasg; teithiodd ymlaen dan wylo, yn flin arni, nes llwyr ddiffygio; nid oedd ganddi, erbyn hyn, ond ymrôi yn ochr craig i rynu i farwolaeth. Yn y sefyllfa anghysurus yma,