Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

canfu ddyn yn myned heibio iddi yn dra chyflym—gwaeddodd arno, ond nid atebodd mo honi; hithau a redodd ar ei ol of dan waeddi arno yn dra chwynfanus, nes y daeth at feudy, ac yno y collodd hi ef; aeth i mewn i hwnw, ymdrôdd yn y gwair, a chysgodd yno hyd y bore; ar ol codi adnabu y lle, a daeth adref mor fuan ag y gallodd; wedi adrodd ei hanes, aeth dyn yn union i'r lle, a chanfu ôl ei thraed hi o'r graig i'r beudy, ar hyd yr eira, heb ddim ôl neb arall. Gadawaf i chwi ac ereill farnu pwy a allai yr arweinydd fod. Y mae yr apostol yn dywedyd am yr angylion, mai ysprydion gwasanaethgar ydynt hwy, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth. A chan i'r eneth hon gael ei thueddu yn mhen amser i ddewis y rhan dda, a bod hyd ei diwedd yn amlwg mewn crefydd, pwy a all ddywedyd nad angel a anfonwyd i achub ei bywyd, fel y caffai fywyd a barhai byth. Gall y ddau adroddiad uchod ymddangos i rai mor ddiystyr ag oedd y llawnder mawr y dywedwyd am dano yn ngolwg y tywysog yn Samaria.

YMOF. Er mor felus a hyfryd oedd genyf wrando yr amrywiol hanesion a adroddasoch, eto rhaid ymadael: wele, yr haul ar gyrhaedd ei gaerau yn y gorllewin; gan hyny ni cheisiaf ddim yn rhagor genych wrth ymadael, ond crybwyll ychydig am y diwygiad sydd yn y gwledydd y dyddiau hyn.

SYL. Grybwyllais eisoes am y diwygiad yn Nghymru, a manau ereill, a ddechreuodd tua'r flwyddyn 1739, a'r modd y cafodd ei aflwyddo trwy yr ymraniad gofidus a glywsoch am dano. Tua'r flwyddyn 1762, torodd allan ddiwygiad mawr trwy amryw o ardaloedd Cymru (soniais ychydig am dano o'r blaen;) trwy hwnw cafodd yr eglwysi eu hadfywio a'u cadarnhau, a helaethu eu terfynau, trwy lawer o ardaloedd. Bu amryw ddiwygiadau ar ol hyny trwy y Deheudir a Gwynedd; a'r gwaith yn myned rhagddo yn llwyddiannus. Pan y byddai yn auaf dros amser ar rai ardaloedd, byddai manau ereill dan dywyniadau cynhes haul cyfiawnder. Ac fe allai, yn mhen ychydig flynyddoedd, byddai yr hin yn cyfnewid, y manau tywyll yn oleu, a'r lleoedd oedd yn oleu yn ddiweddar yn awr dan gwmwl. Bu yn parhau yn y dull hwnw lawer o flynyddoedd, a'r gwaith yn llwyddo yn raddol yn gyffredin trwy y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru. Ond er's rhyw gymaint o amser a aeth heibio, nid oedd effeithiau mor rymus yn cydfyned a phregethiad y gair ag y buasai yn yr amseroedd gynt: dim llawer yn cael eu hychwanegu at yr eglwysi. Yr ieuengctyd, er cymaint eu manteision crefyddol, yn myned ymlaen yn dalgryfion a diarswyd i bechu yn rhyfygus yn