Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tywalltiadau grasol hyn arnynt. Cyrhaeddodd y gawod fendithiol hon, sef y gwlaw graslawn, fynydd-dir a dyffrynoedd Sir Feirionydd. Yr oedd y ddwy Gymdeithasfa ddiweddaf a fu yn y Bala yn dystion amlwg fod ôl llaw yr Arglwydd ar y dorf luosog oedd yn gwrando; felly Caernarfon a Phwllheli yn yr un modd; ac amryw o Gymdeithasfaoedd ereill yn lled gyffelyb. Mae Sir Ddinbych a Flint dan yr unrhyw dywalltiadau, lawer ardal o honynt, a llawer wedi eu chwanegu at yr eglwysi. Ni chafodd Sir Drefaldwyn mo'i gadael yn amddifad; mae yno mewn rhai manau gryn rifedi yn ymofyn y ffordd tua Sïon; yn dechreu codi baner Iesu i fyny, ac yn myned yn mlaen yn siriol fel tyrfa yn cadw gwyl. Y mae Sir Fôn, aml ei breintiau, yr hon a ragorodd ar lawer mewn ffyddlondeb a llafur gyda'r gwaith yn ei holl ranau, wedi profi eisoes, mewn rhai manau, felusder y grawn-sypiau, ac yn hiraethu yn fawr am gael eu profi yn helaethach. Y mae y cwmwl bychan wedi dyrchafu o'r môr, pwy a wyr nad yw y gwlaw mawr ar ddisgyn? Brysied y bore!

Mae yn Sir Aberteifi hefyd, yn y dyddiau hyn, ddiwygiad grymus iawn; sef yn Llangeitho, Tregaron, Lledrod, a manau ereill; ond gan fy mod yn ddyeithriol yno, nis gallaf roddi ychwaneg yn bresennol o hanes crefydd yn y gwledydd hyny. Gan fod cymaint o ddiystyru ac o gablu ar y tywalltiadau o orfoledd a fu, ac sydd yn awr yn Nghymru, fe allai y byddai yn addas chwilio, ai yn mhlith ein cenedl ni yn unig y mae, ac y bu, y cyffelyb weithrediadau.

Yr ydym yn clywed am effeithiau tra thebyg, trwy bregethiad yr efengyl, yn disgyn yn rymus iawn ar amryw fanau yn Affrica. Mae yr argyhoeddiadau mor llym a grymus nos y bydd amryw yn methu ymatal heb lefain allan dan y weinidogaeth, "Pa beth a wnaent i fod yn gadwedig" (a'r dagrau yn llifo i lawr ar hyd eu hwynebau duon.) Ac wedi tori eu cadwynau, a chael datguddiad o'r Cyfryngwr bendigedig yn eu hachub fel pentewynion o'r gyneu dân, bydd y fath ganiadau peraidd yn eu plith, a sain cân a moliant fel tyrfa yn cadw gwyl.

Cawsom hefyd rai hanesion tra sicr fod tywalltiadau cyffelyb i hyn yn disgyn yn rymus ar laweroedd yn rhai manau yn America, yn canlyn diwygiadau mawrion; heblaw amryw wledydd ereill, mewn oesoedd a aethant heibio, a fu gyfranog o'r un cyffelyb effeithiau ag sydd yn awr yn Nghymru. Ond ni oddef rhai i'r hen Frutaniaid ganmawl eu Duw mewn llais clodforedd â llef uchel, rhag (meddant) aflonyddu yr addoliad. Mae yn wir fod rhai yn profi gweithrediadau grymus ar eu