Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

serchiadau dros amser, heb gyfnewidiad yn y galon a'r fuchedd, yn debyg i'r hâd ar y graig, neu i'r rhei'ny a oleuwyd unwaith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o'r Yspryd Glân, ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw. Pwy er hyny a all brofi, nad hâd da a hauwyd ar y graig, er iddo wywo? ac mai nid nerthoedd y byd a ddaw a brofodd y rhai hyny a syrthiasant ymaith? Ond ni fyn llawer yn ein dyddiau ni nad rhyw benboethder, neu wallgofrwydd (enthusiasm) yw y dylanwadau nerthol sydd yn gorlenwi nifer fawr o wrandawyr yr efengyl (yn enwedig dychweledigion ieuaingc:) ac am fod llawer o honynt yn gwrthgilio, y mae hyn yn eu cadarnhau nad yw y cyfan o hono ond rhyw dân dyeithr, annheilwng i neb sefyll drosto, na'i amddiffyn; ond yn hytrach y dylid dywedyd yn ei erbyn, a'i wrthsefyll. Ond wrth ganfod y ffrwythau grasol a welir ar lawer sydd yn brofiadol o hono, ni all neb diragfarn lai nag addef mai llaw Duw a wnaeth hyn. Ond yr un pryd, nid oes lle i amheu na chais y diafol, fel swynwyr yr Aipht gynt, gynhyrfu rhai o'i deulu yntau (yn enwedig rhith-grefyddwyr,) i geisio dynwared gwaith yr Yspryd Glân, er mwyn gwaradwyddo yr efengyl, a chadarnhau yr annuwiolion yn eu casineb a'u gelyniaeth at grefydd.

Ond er holl ymgeision a dichellion y gelyn uffernol, y mae diwygiad amlwg ar fucheddau cannoedd trwy y gwledydd, a alwyd trwy nerthol weithrediad yr efengyl, tan arddeliad yr Yspryd Glân, yn ei ddylanwadau nerthol, yn y blynyddoedd hyn. Mae hefyd ryw radd o gywilydd ac arswyd wedi meddiannu amryw o'r ieuengctyd gwamal, dibroffes, fel nad ydynt mewn ffeiriau, neu rhyw dyrfaoedd lluosog o'r fath, ddim mor dalgryfion, a rhyfygus, i gynal i fyny eu hysgeler annuwioldeb ag, yr oeddynt yn yr amseroedd a aeth heibio. Pa beth yw yr achos fod llawer o ardaloedd Lloegr, yr Iwerddon, ac amryw yn Scotland, yn terfysgu, ac yn codi gwrthryfel yn erbyn llywodraeth dirion Ynys Prydain? Onid eu dyeithrwch i'r Bibl, a gwir grefydd; ac o herwydd hyny nid ydynt yn ofni Duw, nac yn anrhydeddu y brenin; nac ychwaith yn arswydo cablu urddas; ond yn ymdrybaeddu mewn tywyllwch a phob ffieidddra, a llawer o honynt yn Ddeistiaid amlwg, sef yw hyny, gwadu Crist, a dwyfoldeb y Bibl: a miloedd ereill yn ymdroi yn y fagddu o Babyddiaeth, yn meddiant y tywyllwch; ac o'r farn yn hollol mai mammaeth duwioldeb yw anwybodaeth. A pha beth a ddysgwylir gan y naill na'r llail o'r rhai hyn? ond pob math o arferion halogedig a phechadurus, megys meddwdod, godineb, lladrad, celwydd, balchder, cybydd-dod, didduwiaeth, tyngu, cablu Duw a'r brenin, a chyffelyb i'r rhai hyn;