Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am ba rai mae Duw yn dywedyd, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw: a bod digofaint Duw yn dyfod ar blant anufudd-dod. Rywfodd fe gadwyd ein cenedl ni yn rhyfedd, yn nghanol terfysgoedd, yn ffyddlawn i'r llywodraeth. Dywedodd un gŷr anrhydeddus yn y Senedd, y gallasid yn hawdd adael y Cymry allan heb son am danynt pan yr oeddynt yn sefydlu'cyfreithiau newyddion i atal ac i gospi terfysgwyr gwrthryfelgar yn erbyn y llywodraeth.

Ond pa fodd y cafodd y Cymry eu cadw mor heddychol rhagor ereill? A oeddynt wrth naturiaeth yn well na'r rhei'ny? Nac oeddynt ddim. A oedd y tlodi a'r cyfyngderau a fu arnynt yn lai, ac yn haws ei oddef, na'r caledi sydd ar y terfysgwyr? pa un bynag am hyny, nid am hyn y cafodd ein gwlad ni ei chadw mor dawel ynghanol iselder mawr ar filoedd o dlodion. Diau mai y Bibl, dan fendith Duw, a'r pregethiad o hono, ynghyd a'r Ysgolion Sabbathol i ddysgu darllen y gair, a'i drysori yn y cof; y mae yn yr ysgolion hyn hefyd (lle maent yn cael eu hiawn drefnu,) addysgu a hyfforddi ieuengctyd ac ereill yn egwyddorion gwir grefydd, ynghyda dyledswyddau perthynol i bob sefyllfa, at Dduw a dyn; a thrwy y moddion hyn (ac arddeliad yr Arglwydd arnynt,) y cadwyd ein cenedl rhag y pla dinystriol o ddidduwiaeth, a gwrthryfel yn erbyn y llywodraeth. —O! Gymru, dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di.

Rhaid ymadael bellach, fy nghyfaill caredig. Ychydig a feddyliais pan gyfarfum chwi, y buasai ein hymddiddanion yn parhau cyhyd: methu yr oeddwn adael eich serchiadol gyfeillach, gan ystyried hefyd mai un o fil y cawn gymaint a hyn o gymdeithas â'n gilydd mwyach ar dir y rhai byw. Mae yr oriau bron a dirwyn i ben, pan y bydd y cyfan a welir yma is yr haul yn ein gadael, fel mantell Elias gynt. Duw yr heddwch a'ch llwyddo, ac a'ch cynyddo ymhob gras, hyd ddiwedd eich taith. Nos dda i chwi, byddwch wych.

YMOF. Yr wyf yn dra diolchgar i chwi, fy anwyl gyfaill, am eich cymdeithas ddiddanus, ac am yr hanesion tra rhyfedd a adroddasoch i mi; pa rai oedd yn deilwng o fod coffadwriaeth am danynt yn ysgrifenedig i'r genedlaeth a ddêl; gan hyderu y bydd yn ddifyr gan amryw eu ddarllen pan y byddom ni yn llechu yn dawel yn ngharchardy tywyll angeu. Yr wyf yn teimlo hiraeth yn fy llenwi wrth feddwl (fel y soniasoch) nad yw yn debyg y cawn weled ein gilydd mwy tu yma i'r byd tragywyddol. Ond er hyny yr ydym yn hyderu, trwy rad drugaredd, yn enw, a thrwy iawn ac eiriolaeth y Cyfryngwr Iesu