Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Grist, y cawn gydgyfarfod yn yr aneddle lonydd, heb ymadael mwy; lle cawn weled ein Gwaredwr heb len, a bod yn debyg iddo, a byw byth yn ei nefol gymdeithas. A chan eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr wyf yn cymeryd fy nghenad oddiwrthych, dan golli dagrau; er hyny ni allaf lai na chanu ynghanol fy ngalar, ddymuniad yr hen fardd am lwyddiant yr efengyl:

Os wyt ti am ddybenu'r byd,
Cyflawna ar frys Dy Air i gyd,
Dy Etholedig galw yn nghyd
O gwmpas daear fawr;
Aed sain dy efengyl trwy bob gwlad,
A golch fyrddiynau yn dy waed,
A dyro iddynt wir iachad;
Ac yna tyr'd i lawr.






CAERNARFON: ARGRAFWYD GAN H. HUMPHREYS.