Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YMOF. Yr wyf yn dra diolchgar i chwi, fy nghyfaill caredig. Gan hyny mi achubaf y cyfleusdra i ofyn i chwi beth yw yr hanesion cyntaf sydd genych am ddiwygiad mewn crefydd yn Sir Gaernarfon, a manau ereill yn Ngwynedd?

SYL. Ar ol i'r Arglwydd anfon allan y tri Athraw godidog hyny yn y Deheudir, sef Mr. Wroth, Mr. Walter Cradoc, a Mr. William Erbury (ynghydag ereill hefyd,) y rhai a fuont fel tair seren fore, wedi bir nos o dywyllwch dudew, a'r fagddu o Babyddiaeth, arddelodd Duw eu gweinidogaeth i ddifa y lleni tywyll, mewn gradd fel na allodd y diafol na'i offerynau wneud у y rhwyg i fyny hyd heddyw. Ond ni chyrhaeddodd adsain beraidd eu cenadwri mor belled a Gwynedd, yn enwedig Mr. Wroth a Mr. Erbury. Mae yn wir fod Mr. Cradoc yn Ngwreesam, ond nid oes sicrwydd iddo fod yn Sir Gaernarfon. Clywais fod rhyw ysgrifenydd Seisonig yn rhoddi hanes crefydd ymhlith y Cymry (er na welais i ei waith,) a'r hanes y mae efe yn ei roddi sydd fel hyn; sef ddyfod o dri o wŷr ieuaingc o Rydychain i Sir Gaernarfon, tua'r flwyddyn 1646, neu beth diweddarach. Yr oeddynt oll o Sir Gaernarfon, ond ni chefais enwau ond un o honynt, sef John Williams. Am Mr. Williams, dywedir ei fod yn ddyn neillduol mewn dysgeidiaeth a duwioldeb, ac yn dra diwyd i gynyg efengyl y deyrnas i bechaduriaid. Arddelodd Duw ei lafur er bendith i lawer yn y wlad, a gwnaeth ef yn dad ysprydol i lawer, ie, i'r rhan fwyaf o'r dychweledigion ieuaingc yn y wlad y dyddiau hyny. Gellir meddwl yn lled sicr mai efe yw y gwr a drowyd allan wyl Bartholomeus, 1662, o'r Llan yn Sir Gaernarfon, fel y cawn hanes gan y Dr. Calamy ond nid yw y Doctor yn enwi y Llan y trowyd ef allan o honi. Mae yn debyg mai Llandwrog ydoedd: oblegyd yr oedd hen Wr a fagwyd yn y plwyf hwnw yn cofio clywed gan ei hynafiaid, pan oedd yn fachgen, i wr fod yn pregethu yn y Llan hòno a fyddai yn dyrchafu ei lais fel udgorn, a'u bod yn ei glywed dros chwarter milldir o ffordd. Mae Calamy, yn ei hanes am Sir Ddinbych, yn adrodd am un Ellis Rowlands, o Ruthyn, fel yr oedd yn pregethu yn achlysurol yn Sir Gaernarfon, i'r erlidwyr ei lusgo allan o'r pulpud. lled ddiamheuol mai un o'r ddau dyn a fū, fel meibion y daran, yn aflonyddu y byd yn Llandwrog. Barna ereill, yn ol a glywsant gan rai o'u hynafiaid, mai o Lan a elwir Ynys Cynhaiarn y trowyd Mr. Williams allan, ac iddo briodi etifeddes y Gwynfryn, gerllaw Pwllheli, a darfod i'w mab droi allan yn ddyn meddw afradlon, a threulio ei etifeddiaeth yn llwyr. Ereill a dybiant mai Henry Morris ydoedd priod etifeddes y Gwynfryn. Ond i fyned ymlaen a'r hanes, cafodd Mr. Williams ei gynorthwyo yn y diwygiad boreuol hwn gan Vavasor Powell,