Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a Morgan Llvyd, y rhai a fuont dra bendithiol i lawer drwy eu gweinidogaeth. Byddai Morgan Llwyd yn pregethu yn Mhwllheli ar ddyddiau marchnad, a'i arfer oedd myned trwy y farchnad a'i ddwylaw ar ei gefn, a'i Fibl yn ei law; a byddai y bobl yn cilio o'i flaen, fel pe buasai gerbyd yn carlamu trwy'r heolydd.

YMOF. Pa beth a ddaeth o John Williams ar ol ei droi allan o'r Llan?

SYL. Yr oedd Mr. Williams wedi casglu eglwys cyn y cyfnewidiad yn nechreuad teyrnasiad Charles yr ail; ond pan gafodd ef (gyda lluaws o rai ereill) ei droi allan o'r Llan, cymerodd ei daith i Landain i ochelyd poethder yr erlid, fel y tybir: ond er mor ddychrynllyd oedd y dymhestl, ni allodd aros yn hir oddiwrth ei anwyl gyfeillion, eithr dychwelodd yn ol atynt, fel bugail gofalus a ffyddlon, i wylio drostynt ac i'w cynorthwyo. Cafodd ef a hwythau eu rhan yn helaeth o'r erlidigaeth. Byddai gorfod arnynt yn fynych gadw eu cyfarfodydd yn y nos, rhag cael eu haflonyddu gan yr erlidwyr. Amherchid eu cyrph yn greulon, a llunid aneirif gelwyddau arnynt. Taflwyd rhyw nifer o honynt i garchar, ynghyda chymeryd ymaith eu meddiannau. Ffeiniwyd y Capel helyg, yn mhlwyf Llangybi, ddwywaith, i haner can'punt bob tro, a thalwyd y cyfan gan ychydig o bersonau ag oeddynt yn caru achos eu Harglwydd. Yr oedd yn yr amseroedd hyny wr tra chreulon yn byw yn y Plas newydd, gerllaw Llandwrog, a elwid Hwlcyn Llwyd, ac o ran ei swydd yn ustus heddwch. Anfonodd i ran o'r wlad a elwid Eifionydd (ddeg neu bymtheg milldir o ffordd) i ruthro ar y trueiniaid gwirion, heb un achos, ond eu bod yn addoli Duw; gan eu harwain, fel defaid i'r lladdfa, at balas yr ustus creulon, a'u dodi mewn dalfa o'r bore hyd brydnawn. Dygwyddodd i un o weision yr ustus ddyfod i'w gweled; atolygasant ar hwnw fod mor garedig a myned drostynt at ei feistr, a dangos iddo nad oeddynt hwy yn gwrthod myned i garchar, os oedd y gyfraith yn gofyn hyny; ond nad oedd un gyfraith i'w cadw yno i lewygu o newyn. Bu y gwas mor dirion a gwneyd eu harchiad: ond yn y fan, tra'r oedd y dyn yn dyweyd drostynt, ffromodd yr hen lew creulon yn erchyll, a dechreuodd ymwylltio, amhwyllo, ac ymgynddeiriogi, nes trengodd yn ddisymwth yn farw yn y fan, a chafodd y praidd diniwaid fyned yn rhydd o'r gwarchau, a dychwelyd yn siriol at eu teuluoedd mewn diolchgarwch.

YMOF. Och! ddiwedd echryslon yr adyn truenus. Mae hyn yn dwyn i'm côf y geiriau yn Zec. ii. 8, "A gyffyrddo â chwi sydd yn cyffwrdd â chanwyll ei lygaid ef." Ond ewyllys-