Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yntau a addefodd wrthi nad allai fod yn dawel yn ei feddyliau os arosai yn hwy yn ei le fel gweinidog: ond ar yr un pryd, fod ei ofal yn fawr am dani hi a'i phlentyn bach, pa fodd y caent eu cynaliaeth rhagllaw. Dymunodd hithau arno wneyd yn ol ei gydwybod; gan sicrhau iddo y gallai hi, yn rhydd, draddodi ei hun a'i phlentyn i ofal rhagluniaeth Duw, i ba un nis gallai anymddiried mewn un modd. Ei hateb iddo a'i cynaliodd ac a'i calonogodd ef yn fawr. Pan bregethodd ei bregeth olaf yno, derbyniodd lythyr oddiwrth Ganghellor yr esgobaeth, yn ei fygwth am iddo ddywedyd rhywbeth yn erbyn llywodraeth yr eglwys. Yntau a anfonodd iddo yn ateb, nad oedd un dyben ganddo yn yr hyn a bregethodd i feio ar neb, na’u hamharchu, ond yn hytrach dystewi ei gydwybod archolledig ei hunan. Rhoddes ei feddiannau bydol yn llwyr o flaen ei ofynwyr: hwythau a'u cymerasant yn gwbl, heb adael iddo ddim; a chan nad oedd hyny yn ddigon i'w boddloni, rhoddasant ef yngharchar yn yr Amwythig. Yn y sefyllfa anghysurus yma cafodd fynych gynorthwy gan rai oedd gwbl anadnabyddus iddo. Gwraig y carchar oedd ar y cyntaf yn annhirion a sarug wrtho; ond cyn hir cafodd ei gwir ddychwelyd trwyddo, fel ceidwad y carchar gynt. O'r diwedd rhai o'i gyfeillion, fel yr oedd yn gweddu, a ymrwymasant i dalu ei ddyled, a rhyddhawyd ef. Wedi hyn arosodd yn yr Amwythig dros ryw faint o amser, ac yna symudodd i Abergafeni. Dewiswyd ef yn fuan yn weinidog i gorph o bobl yn Llanigon a Merthyr. Eithr nid oedd ei wasanaeth i gael ei gyfyngu iddynt hwy yn unig; canys yr oedd ei awyddfryd cymaint fel nad oedd yn foddlon i gaethiwo ei hunan i gylch mor fychan. Treuliodd ei amser i ymdeithio drwy holl Gymru yn ngwasanaeth ei Feistr nefol; a phregethu efengyl Crist mewn manau tywyll oedd ei orchwyl beunyddiol, a bu yn fendithiol i lawer o eneidiau. Cyrchai lluaws mawr i'w wrando mewn amryw fanau.

Dyoddefodd lawer o galedfyd wrth deithio ar bob math o dywydd ar hyd y ffyrdd mynyddig, a bod yn fynych mewn lleoedd anghysurus i letya. Ei arfer, gartref ac oddi cartref, wrth gadw dyledswydd fore a hwyr, fyddai esbonio rhyw ran o'r ysgrythyr; a bu hyny yn fendithiol i lawer. Coffaf un esiampl nodedig o hyny. Cafodd ei alw i ymweled â geneth i wr boneddig anghrefyddol, yr hon oedd yn saith mlwydd oed, i'r dyben o geisio gwneyd lles iddi fel physygwr; ond er na iachawyd hi o'i chloffni, cafodd feddyginiaeth anfeidrol well, sef gras i gofio ei Chreawdwr yn nyddiau ei hieuengctyd, trwy ei nefol addysgiadau ef. Os deallai fod rhyw o rai wahanol ieithoedd yn ei wrando yn pregethu neu yn gweddio, cai pawb fyddai yn bresennol ran o'r addoliad yn ei iaith ei hun, pe