Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

difrifol ddaioni Duw tuag ato ef a'i deulu. Pan ddywedodd ei wraig wrtho, Fy anwylyd, chwi a gawsoch noswaith flin neithwyr; atebodd yntau, Beth os cefais? cafodd Job lawer o nosweithiau blinion. Pan welodd efe y bobl yn wylo o'i amgylch, eb efe wrth ei wraig. A ydwyt ti yn sylwi ar diriondeb yr Arglwydd tuag atom, ddyeithriaid tlodion, yn cyfodi cynifer o gyfeillion i ni? Cariad Crist, eb efe, sydd yn fawr adfywiad i'm henaid. Bendigedig a fyddo Duw, yr hwn a'm gwnaeth i a thithau yn gyfranogion o'r un gras. Pell oedd oddiwrtho feddwl fod ynddo ddim teilyngdod, ac eto yr oedd yn llawenhau yn nhystiolaeth ei gydwybod. Fo ddywedai am dano ei hun fel hyn, Nid wyf yn ymddiried yn fy ngwaith a'm llafur; ac eto, yr wyf yn llawennau o'u plegyd hefyd. Bu farw yn Gorphenaf 1682, ryw faint dros ddeugain mlwydd oed.

YMOF. Gan i chwi grybwyll y byddai Morgan Llwyd, yn mysg manau ereill, yn pregethu yn Pwllheli, dymunwn glywed ychwaneg o'i hanes.

SYL. Yr oedd Morgan Llwyd o deulu Cynfal, yn mhlwyf Maentwrog, Sir Feirionydd. Yr oedd yn fab, medd rhai, nai medd ereill, i Hugh Llwyd, Cynfal. Clywais ddywedyd, pan oedd yr hen ŵr yn glaf, ychydig cyn marw, ei fod yn dymuno gweled Morgan. Gofynodd y rhai oedd gydag ef iddo, Ai nid ydych yn ewyllysio gweled eich mab Dafydd? Atebodd yntau, Nag wyf: nid yw hwnw ond ffwl meddw, fel finau. O! na chawn weled Morgan. Y mae yn debygol wrth hyn mai ei fab ydoedd. Ac y mae yn dra thebygol mai drwy weinidogaeth Walter Cradoc y cafodd droadigaeth, pan oedd Cradoc yn gweinidogaethu yn Ngwrecsam: ond pa un ai yn yr ysgol, ai ar ryw achos arall, yr oedd efe yno, nid yw yn hysbys. Yr oedd yn ŵr o gyneddfau cryfion, yn nodedig am ei dduwioldeb, dwfn iawn ei fyfyrdodau: ac yr oedd llawer o bethau dirgelaidd yn ei ymadroddion, ei lythyrau a'i lyfrau, anhawdd i lawer eu deall. Ysgrifenodd amryw o lyfrau bychain yn Gymraeg, megys Llyfr y Tri Aderyn, Gair o'r Gair, Yr Ymroddiad, Gwaedd yn Nghymru, &c. Teithiodd lawer trwy Gymru i bregethu yr efengyl. Gelwid ef gan wyr y Deheudir, Morgan Llwyd o Wynedd. Bu yn weinidog yn Ngwrecsam dros rai blynyddoedd, yn yr amser y trowyd amryw offeiriadau anfucheddol o'r Llanau. Bu farw o gylch y flwyddyn 1660, a chladdwyd ef yn mynwent yr Ymneillduwyr gerllaw Gwrecsam. Gwelais y gareg yno a fuasai ar ei fedd, ac arni y ddwy lythyren yma, sef, M. Ll., Dywedir i ryw Wr boneddig, o erlidiwr creulon, yn ei gynddaredd wrth fyned heibio, drywanu ei gleddyf i'w fedd hyd at y carn. Dywedir fod 'rhyw bwys a