Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

thrymder neillduol wedi syrthio ar feddyliau Vavasor Powell,[1] y nos y bu farw Morgan Llwyd, ac iddo ddywedyd wrth y rhai oedd gydag ef y geiriau hyn, "Aeth y seren ddysgleiriaf yn Nghymru dan gwmwl heno:" er na wyddai ef y pryd hyny ddim am y farwolaeth a ddygwyddasai. Byddai rhyw bethau neillduol yn cael eu hamlygu i Morgan Llwyd cyn eu dyfod i ben. Un tro pan oedd yn pregethu yn mhentref Ffestiniog, a bod yno, yn mysg amryw oedd yn cellwair ac yn gwawdio, un dyn ieuangc yn rhagori arnynt oll mewn ysgafnder a chellwair; wrth sylwi arno, nododd ef allan, gan ddywedyd wrtho fel hyn, "Tydi y dyn ieuangc, gelli adael heibio dy gellwair: tydi yw y

  1. Gan fod hanes y gŵr enwog hwn, Mr. Vavasor Powell, yn argraffedig eisoes yn yr iaith Gymraeg, nid wyf yn gweled angenrheidrwydd ychwanegu, ond yn unig coffâu un tro neillduol a gyfarfu âg ef yn Sir Fflint. Yr oedd wedi addaw dyfod i bregethu ar ryw fynydd neu gyttir, nid yn mhell o Gaergwrle. Wrth geisio dyfod i dŷ cyfaill iddo gerllaw yno, nosodd arno, a chollodd y ffordd, bu yn crwydro yn hir yn nhywyllwch y nos, o'r diwedd canfu oleuni a thynodd tuag ato; a pha beth oedd yno ond palas mawr; anturiodd guro wrth un o'r drysau. Daeth morwyn i agor iddo, adnabu hono ef (canys un o'i gymydogaeth ef oedd hi.) Gofynodd iddi, a oedd hi yn meddwl y gallai efe gael lletya yno y nos hono: atebodd hithau fod ei meistr yn greulon yn erbyn crefydd, ond bod ei meistres beth yn dynerach. Aeth y llangces at ei meistres i ddywedyd am dano. Gorchymynodd hithau i'r forwyn ei droi ef yn ddystaw i ystafell i aros i'r gwr boneddig fyned i'w orweddfa; ac wedi hyny daeth y wraig foneddig at Mr. Powell, yntau a ymddiddanodd â hi yn ddifrifol am natur gwir grefydd, nes yr enillwyd ei serch, trwy yr ymddiddan, i benderfynu myned i wrando arno dranoeth. Aeth Mr. Powell, ymaith yn fore iawn. Gofynodd y wraig foneddig i'w gŵr a gai hi a'i mab geffyl bob un i fyned i daith fechan; ac wedi cael y ceffylau yn barod dechreuasant eu taith tua'r bregeth. Daeth hen wraig adnabyddus iddynt i'w cyfarfod, ac wedi iddi gyfarch gwell i'r wraig foneddig, ebe hi yn mhellach wrthi, Gwyliwch, fy Meistres, fyned at y cythreuliaid sydd yn y mynydd yn pregethu. Yr wyf fi (meddai y wraig foneddig.) yn bwriadu myned. Ni orphwysodd yr hen wraig nes mynegi hyny i'r gwr boneddig: yntau wedi ymwylltio a gymerodd geffyl iddo ei hun ac i'r mab arall (canys dau o feibion oedd iddynt,) ac ymaith ag ef tua'r mynydd, i ladd y pregethwr; a phwy a ddaeth, oddiwrth dŷ ei gyfaill, i gyfarfod âg ef, ond Mr. Powell: a chan ei fod yn wr trefnus, ac o ddygiad da i fyny, ni feddyliodd y gŵr boneddig mai y pregethwr ydoedd mewn un modd. Wedi cyfarch eu gilydd, dywedodd y gŵr boneddig wrth Mr. Powell, ei fod yn myned i saethu y pregethwr: O'r goreu, ebe Mr. Powell, myfi a gymeraf fy mhleser i ddyfod gyda chwi; felly cyd-deithio a wnaethant; ond ar y ffordd dywedodd Mr. Powell wrth y gwr boneddig, Fe allai y byddai well i ni wrando ychydig ar y pregethwr yn gyntaf, odid na ddywaid er gyfeiliornadau amlwg, ac yna fe fydd genym reswm i'w roddi paham y lladdasom ef. Gwelodd y gwr boneddig fod hyny yn ei le, ac yn rhesymol; a than ymddiddan â'u gilydd daethant hyd at y lle yr oedd y cyfarfod: a phwy a ymosododd at y gwaith o bregethu ond yr un oedd yn cyd-deithio â'r gŵr boneddig. Cafodd y gŵr boneddig a'i wraig eu gwir ddychwelyd at yr Arglwydd, a buont yn siriol ac yn ymgeleddgar i achos Duw mewn amseroedd blinion ac erlidigaethus; ac yn noddfa i'r gweinidogion a drowyd allan o'r eglwysydd yn y flwyddyn 1662. Plas teg oedd enw y lle yr oeddynt yn byw, y mae rhwng Caergwrle a'r Wyddgrug. Yr oedd Mr. V. Powell cyn hyny wedi breuddwydio ei fod yn cael nyth aderyn, ac ynddo ddau gyw, a'i weled ei hun yn dal y ddau hen, a'r ddau gyw yn diengyd. Bu dros amser yn synfeddylio beth a allai ystyr y breuddwyd fod, ond cafodd ddeongliad o hono yma; canys daliwyd y tad a'r fam trwy'r efengyl, ond diangodd y ddau fab yn hollol ddigrefydd.