Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nifer o weinidogion ymgyfarfod yn Mhwllheli , i gynyg, pregethu, yn wyneb mawr erlid ac enbydrwydd. Gofynodd un honynt, Pwy a bregetha yma heddyw? Atebodd un gweinidog ieuangc, yn ddiegwan o ffydd, Os caniatewch, fy mrodyr, myfi a bregethaf. Ac fel yr oedd yn myned yn mlaen yn ei orchwyl pwysfawr, saethodd un o'r erlidwyr fwled heibio ei ben i'r pared. Wrth ganfod y waredigaeth ryfedd o eiddo Duw tuag ato, adroddodd y geiriau hyn, "Yn nghysgod dy law y'm suddiwyd," ac yna aeth yn mlaen yn galonog hyd ddiwedd y cyfarfod.

YMOF. Gan fod pethau mor ryfedd wedi bod yn yr hen amseroedd, ewyllysiwn glywed ychwaneg genych.

SYL. Yr oedd yn byw yn y cyfamser, yn rhyw le gerllaw Abererch, wr a alwent Edward dduwiol, nes weithiau, Y Siopwr duwiol. Pan oedd yn fachgen mewn gwasanaeth, mewn lle a elwir y Clenenau, canfuwyd ganddo lyfr bychan yn dysgu darllen; a throwyd ef o'i le am hyny. Dygwyddodd ar ryw achos cyfreithlon, iddo gael ei ddal yn Mhwllheli, ar noson marchnad, nes ei myned yn llawer o'r nos; canfu, i'w dyb ef, fod y môr wedi llenwi ar ei ffordd, fel na allai'ddychwelyd adref ar hyd y ffordd arferol; trodd yn ol trwy ran arall o'r dref, i amgylchu y dwfr, ac wrth fyned, daeth cymhelliad cryf i'w feddwl i alw mewn tŷ adnabyddus iddo wrth fyned heibio: wedi galw wrth y drws, daeth gŵr y tŷ i agoryd iddo; ac wedi cyfarch eu gilydd, dywedodd wrth y gŵr, Nis gwn i ba beth y gelwais yma, ond yn fy myw ni chawswn lonydd i beidio. Atebodd gwr y tŷ, Os na wyddech chwi, fe wyddai Duw. Ac yno fe dynodd gortyn oddiar ei gefn, â pha un yr oedd yn myned i'w grogi ei hun: a bu yr hen wr duwiol, drwy ei gynghorion a'i weddïau, yn offerynol i achub y creadur tlawd o safn y brofedigaeth uffernol hòno. Ond am y llanw a dybiasai ei fod ar y ffordd, nid oedd dim o'r fath i fod yr oriau hyny.

YMOF. Soniasoch fod Hugh Owen, Fron y clydwr, wedi bod yn fugail ar yr eglwys yn Sir Gaernarfon, ac na allodd gan ei lafur a'i deithiau fod yn arosol yno. Da fyddai genyf glywed pa fodd y bu arnynt am weinidogion wedi hyny.

SYL. Erfyniodd Henry Maurice ar Stephen Hughes, o Abertawe, ganiatáu i James Owen, ei gynorthwywr, ddyfod i'w plith; a bu Dr. Hughes mor dirion a chydsynio yn wirfoddol. Dr. J. Owen a arosodd gyda hwynt yspaid blwyddyn, ac a fu yn dra defnyddiol yn eu mysg. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac o ymarweddiad duwiol a diargyhoedd: ond cynyddodd yr erlidigaeth fel y gorfu arno ffoi yn y nos i Sir Feir-