Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YMOF. Pwy a fu yn gweinidogaethu yn Mhwllheli ar ol Mr. Phillips?

SYL. Un Mr. John Thomas, o ryw barth o'r Deheudir. Bu yntau yn byw yn y Gwynfryn, a bu yn weinidog ffyddlon i'r eglwys tra parhaodd ei oes. Nid oedd ei ddoniau yn helaeth; ond am ei dduwioldeb a thynerwch ei gydwybod, nid yn hawdd y ceid ei gyffelyb. Prin y medrai ofyn am ei eiddo yr hyn a dalai, gan dynerwch ei gydwybod. Un tro rhoddes ryw ddau ddiffaethwr ar waith i wneuthur rhyw adeilad iddo; hwythau, o dra dirmyg ar grefydd, a wnaethant y gwaith mor dwyllodrus fel y syrthiodd i lawr yn ebrwydd ar ol ei orphen: yna daethant at yr hen wr duwiol yn ddigywilydd i ofyn eu cyflog. Pa fodd y talaf i chwi, ebe yntau, gan fod y gwaith wedi syrthio? Ypa y ddau ddibiryn ystrywgar a gymerasant arnynt ymwylltio a rbegi y naill y llall, a thaeru yn haerllug â'u gilydd. Arnat ti, fulain (ebe un) yr oedd y bai. Celwydd, genaw (medd y llall,) arnat ti yr oedd y bai. Tewch, druain, y meddai yr hen wr duwiol a diniwaid wrthynt; peidiwch a thyngu, a mi a dalaf i chwi y cyfan: ac felly y bu. Hwythau a aethant ymaith dan chwerthin yn eu dyrnau, heb feddwl dim am y cyfrif yn y farn fawr am weithred mor ysgeler. Deuai i lawr weithiau o'i lyfrgell pan y byddid yn twymo y ffwrn, fel y gallai yr olwg ar y fflamau dychrynllyd adgofio iddo echrys boenau y damnedigion. Ar ol Mr. John Thomas bu Mr. David Williams yma dros ychydig. Nid oedd efe ond gwanaidd o gorph, ac yn afiachus y rhan amlaf. Aeth yn ol i'w wlad, sef y Deheudir, a bu farw yn lled ieuangc. Yr oedd у ei dduwioldeb yn amlwg, a bu yn fendith i lawer tra bu efe yma. Ar ol hyny daeth Mr. Richard Thomas, o'r Deheudir, i fod yn weinidog i'r eglwys yn Mhwllheli, a'r manau ereill perthynol i'r corph pryd hyny. Yr oedd yn ŵr o gyneddfau cryfion, ac anghyffredin ei gôf, ac yn fedrus mewn meddyginiaeth: ond dywedir iddo wyro yn ei farn i ryw raddau oddiwrth y wir athrawiaeth. Ni bu yn gysurus i'r eglwys, nag o nemawr adeiladaeth yn eu plith. Ymrwystrodd yn ormodol â negeseuau y bywyd hwn: ac wrth ymdaith ar y môr ynghylch rhyw fasnach fydol, boddodd wrth ochr tir yr Iwerddon. Ar ol y ddamwain anghysurus hon, buont dros ryw gymaint o amser heb weinidog: ond yn mhen enyd, dewisasant Mr. Rees Harris yn weinidog iddynt. Bu ef yn eu plith dros amryw o flynyddoedd, yn ddiwyd a llafurus; gorphenodd ei yrfa, wedi treulio ei ddyddiau yn ddiargyhoedd a chariadus yn mysg ei frodyr, ac yn ei ardal. Ar ol marw Mr. Harris, dewiswyd Mr. Benjamin Jones i weinidogaethu yn eu plith; ac efe yw eu bugail yn bresennol. A chan mai fy