Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tra bu yn golygu argraffiad y Bibl, heblaw ei gynorthwyon mewn amryw ffyrdd ereill. Yn nesaf yr enwir y Doctor David Powell, ficar Rhiwabon, yr hwn oedd wr tra dysgedig, yn Gymro rhagorol, a hyddysg iawn yn hanesion ei wlad; nid oes amheuaeth na bu y gŵr enwog hwn yn gynorthwyol iawn i'r gwaith. Cynorthwywr nodedig arall oedd Edmund Prys, archddiacon Meirionydd, yr hwn oedd ysgolhaig mawr a phrydydd enwog. Cyfansoddodd y Salmau ar gân, y rhai sydd mewn derbyniad mawr, ac a arferir yn y rhan fwyaf o eglwysi Cymru hyd heddyw. Ganwyd ef yn y Gerddi bluog, a bu fyw yn y Tyddyn du, gerllaw Maentwrog, yn yr hwn blwyf yr oedd ef yn berson, ac yno y claddwyd ef. Wedi mawr lafur ac ymdrech y gwŷr dysgedig hyn, daeth y Bibl allan, fel y soniwyd, yn y flwyddyn 1588. Diwygiodd y Doctor William Morgan lawer ar gyfieithiad Mr. W. Salisbury o'r Testament Newydd yn y flwyddyn 1567.

Ond yn gymaint ag na argraffwyd nemawr yn ychwaneg o Fiblau y pryd hyny nag un i bob Llan, nid oedd y wlad yn gyffredin yn gwybod fawr am dano, ond yr hyn a glywent ddarllen o hono ar y Sabbath yn yr eglwysydd: a chan nad oedd ond prinder o honynt ar y cyntaf, a llawer o honynt wedi darn ddryīlio, gwelodd rhai gwŷr dysgedig fawr angenrheidrwydd am argraffiad drachefn o'r Bibl sanctaidd, ac hefyd bod eisiau perffeithio a diwygio peth ar gyfieithiad y Dr. Morgan. Felly y Doctor Richard Parry (ar ol hyny esgob Llanelwy,). a gymerodd y gorchwyl pwysfawr mewn llaw: a'r Bibl sanctaidd a argraffwyd yr ail waith yn y flwyddyn 1620. Y cyfieithiad hwn o eiddo y Dr. Parry sydd genym yn arferedig hyd heddyw. Yr oedd yr enwog a'r dysgedig Dr. John Davies, person Mallwyd, yn gynorthwywr defnyddiol i'r Dr. Parry, yn y gwaith llafurus hwn. Dywedir i'r Dr. Davies gael ei ddwyn i fyny gyda'r Dr. Morgan; ac felly cafodd fantais fawr yn ieuangc i fod yn fedrus ymhob dysgeidiaeth, yn enwedig yn iaith ei wlad. Dywed ef ei hun (ac ereill hefyd) ei fod yn cynorthwyo y Dr. Morgan a'r Dr. Parry yn y ddau gyfieithiad uchod o'r Bibl i'r Gymraeg. Dyma y gwyr enwog a fuont mor. ymdrechgar i ddwyn gair Duw i'n gwlad, er's mwy na dau can' mlynedd bellach: ac er y dylem yn benaf roddi y clod i'r Duw mawr, yr hwn a addasodd ac a dueddodd gynifer at waith mor dda, ac a'u cynorthwyodd i fyned trwy orchwyl mor bwysfawr, eto dylai coffadwriaeth y gwŷr clodfawr hyn seinio yn beraidd yn ein gwlad, a'u parchu gan ein cenedl tra b'o haul yn goleuo; gan fod medi mor helaeth o ffrwyth yr hâd a hauwyd mor gynar yn ein gwlad. Gwŷr o Wynedd, sef Gogledd Cymru, oedd pob un o'r cyfieithwyr: yr oeddynt mor ddysgedig yn