Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pob merch tincr gyda'r Saeson,
Fedr ddarllen llyfrau mawrion;
Ni wyr merched llawer Scwier,
Gyda ninau ddarllen Pader.

YMOF. Gan i'r wawr nefol ddechreu tywynu ar ein cenedl, adroddwch pa fodd у bu arnynt wedi hyn am Fiblau.

SYL. Daeth argraffiad arall allan yn y flwyddyn 1654. Yr oedd llawer o feiau a gwallau yn yr argraffiad hwnw; ac nid yw yn gwbl hysbys pwy a fu yn offerynol i'w ddwyn allan. Tybia rhai mai Mr. Vavasor Powell, a Mr. Walter Cradoc, a'u cyfeillion, a gawsant y fraint o ddyfod a'r gorchwyl i ben. Daeth allan argraffiad o'r Testament Newydd yn y flwyddyn 1647. Bu Mr. Stephan Hughes, a drowyd allan o Eglwys Meidryn, yn Sir Gaerfyrddin, yn ddefnyddiol iawn yn ei oes i daenu yr efengyl ymhlith y Cymry. Cyfieithodd ac argraffodd lawer o lyfrau er budd i'r Cymry tlodion. Llwyddodd hefyd i gaei cynorthwy amryw o foneddigion y wlad i gael argraffiad drachefn o'r Bibl yn y flwyddyn 1678. Yr oedd yn y cyfamser ŵr tra haelionus, a llafurus iawn dros y Cymry, yn byw yn Llundain, sef Mr. Thomas Gouge. Rhoddodd ysgolion rhad mewn llawer o drefydd yn Nghymru, a chyfranodd Feiblau, Testamentau, a llawer o lyfrau ereill i'r tlodion. Nid yn unig yr oedd yn rhanu braidd ei holl feddiannau ei hun, ond hefyd yr oedd yn anog ac yn cymhell llawer ereill i wneuthur lles i'r Cymry. Bu hefyd yn gynorthwy i ddwyn allan yr argraffiad o'r Bibl y soniwyd uchod am dano. Yr oedd Stephan Hughes wedi bwriadu rhoddi argraffiad drachefn o'r Bibl allan, ac wedi parotôi at hyny: ond cafodd ei alw i orphwyso oddiwrth ei lafur cyn cyflawni ei amcan. Ar ol marw S. Hughes, cymerodd David Jones, a droisid allan o Landyssilio, Sir Gaerfyrddin, y gorchwyl llafurus mewn llaw; a thrwy gynorthwy amryw weinidogion, yn benaf o Lundain, daeth argraffiad allan yn y flwyddyn 1690. Wedi hyny daeth argraffiad arall o'r Bibl allan, gan wr cymwynasgar, ac addas i'r gorchwyl, sef Moses Williams, Ficar Dyfynog yn Sir Frycheiniog, yr hwn oedd ysgolhaig da a Chymro rhagorol. Yn y flwyddyn 1718 y daeth yr argraffiad hwn allan, trwy gynorthwy y Gymdeithas anrhydeddus a sefydlwyd (er's mwy na chân' mlynedd) er helaethu gwybodaeth Gristionogol. Y mae y Cymry fel cenedl dan rwymau neillduol i gydnabod daioni a chariad Duw tuag atynt am iddo dueddu a chynal y Gymdeithas enwog hon gynifer o flynyddoedd i anrhegu y Cymry â thros driugain mil o y Fiblau, o'r flwyddyn 1718 hyd y flwyddyn 1769: a pha faint o filoedd ar ol hyny nis gallaf ddywedyd; heblaw llawer o filoedd o lyfrau da ereill a lifodd i'n plith o haelioni y Gymdeithas