Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

odidog hon. Ni bu yn mysg y Cymry er pan y maent yn genedì, y filfed ran o Fiblau ag sydd yn awr. Yn y flwyddiyo 1460 yr argraffwyd y llyfr cyntaf erioed yn y deyrnas hon: ac nid oedd cyn hyny un llyfr i'w gael ond mewn ysgrifen-law. Yn y flwyddyn 1803 ffurfiwyd y Gymdeithas odidog hono yn Llundain ag sydd o gymaint bendith i filoedd o ddynolryw, sef Bibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Y mae hon a'i chylch yn helaethach na'r Gymdeithas a soniwyd am dani o'r blaen. Mae ei llwyddiant eisoes yn anhraethol fawr, a'i hadenydd yn ymestyn dros ryw ranau o holl barthau y byd. Ei chynorthwywyr ydynt dra lluosog drwy holl Frydain, a llawer o deyrnasoedd ereill; yn gynwysedig o bob gradd a sefyllfa o ddynion: tywysogion, esgobion, ynghyda llawer o eglwyswyr o bob gradd, ac ymneillduwyr o bob enw, goreugwyr penaf y deyrnas, ¡e, y tlodion hefyd, yn ol eu gallu, yn bwrw eu hatlingau yn siriol i'r drysorfa hon. Nid oes yn y Gymdeithas hon ddim cilwg gan wahanol enwau a phleidiau crefyddol y naill tuag at y llall; ond pawb blith draphlith yn cyduno yn siriol, ac â'u holl egni yn defnyddio pob moddion tuag at lwyddiant y gwaith gogoneddus hwn.

YMOF. Rhyfedd diriondeb trugaredd yr Arglwydd tuag atom!! Ond trwy bwy, a pha fodd y dechreuodd y Gymdeithas fendithiol hon?

SYL. Er yr holl filoedd o Fiblau a ddaethai i'n gwlad o bryd i bryd, yr oedd llawer o gannoedd, ïe, filoedd o bersonau unigol, heblaw teuluoedd lawer, drwy'r dalaith, yn hollol amddifad o honynt. Cynhyrfodd hyn dosturi y Parch. Thomas Charles o'r Bala, i ystyried pa fodd i gael Biblau i'r Cymry tlodion: ac wedi' methu llwyddo dros amser, gosododd y peth gerbron ei gyfeillion yn Llundain, a llwyddodd yn ei amcan i gael Biblau i'r Cymry. Ac wrth sefydlu trefn i fyned trwy y gorchwyl, daeth i feddwl rhai o'r cyfeillion, fod cymmaint, a mwy o eisiau Biblau ar filoedd o drueiniaid tywyll paganaidd, trwy amrywiol barthau y byd, nag oedd ar y Cymry. Wrth ystyried hyny, penderfynwyd i bawb oedd yn bresennol, gydymroddi i osod y sylfaen i lawr, drwy gyfranu yn haelionus tuag at ddechreu dwyn ymlaen y gorchwyl bendithfawr hwn. Ac er nad oedd ei ddechreuad ond bychan, megys cwmwl a welwyd yn codi o'r môr fel cledr llaw gwr, eto, efe a daenodd dros yr holl nefoedd. Felly y gwaith tra rhyfedd hwn sydd yn ymledaenu ac yn llwyddo fwy fwy; ac y mae lle i obeithio ac i gadarn hyderu yn wyneb llawer o addewidion mawr iawn a gwerthfawr, Nad yw hi eto ond dechreu gwario; ond y llenwir y ddaear o wybodaeth yr Arglwydd.