Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhyw wag ddychymyg, ffôl a alwent Breuddwyd Mair; yr oedd hwnw yn fwy cymeradwy yn eu golwg nag un o'r lleill. Arferai bagad o'r cymydogion ymdyru at eu gilydd y nos o flaen claddedigaeth y marw, a byddai pawb yn myned ar eu gliniau pan ddelent gyntaf i'r tŷ. Gellir meddwl mai dechreuad yr arfer hon oedd, gweddïo am ddedwyddol ymwared enaid eu cyfaill marw allan o'r purdan.—Yna darllenai y clochydd, neu ryw un arall, ryw ranau o wasanaeth y claddedigaeth, er y byddai llawer o afreolaeth ac ysgafnder tra y cyflawnid hyny; ac wedi hyny, pob math o chwareyddiaethau a ddylynid hyd haner nos, neu ysgatfydd byd ganiad y ceiliog. Nid oedd un gwaharddiad i'r ynfydrwydd hyn gael ei gyflawni, oni byddai i wr neu wraig farw yn nghanol eu dyddiau, a gadael o'u hol blant amddifaid neu berthynasau galarus. Fe ddygwyddodd un tro mewn wylnos rhyw hen ferch, i'r chwareu barhau nes darfu y canwyllau: a phryd nad oedd ganddynt ond ychydig o lewyrch tân i chwareu cardiau wrtho, aeth rhyw langc eithaf rhyfygus, ac a gymerth y corph yn ei freichiau (yr hwn oedd y pryd hyny heb ei roddi mewn arch) gan wneuthur oerleisiau i ddychryn ei gyfeillion ynfyd; a bu mor drwstan a syrthio i lawr yn eu canol hwynt, a'r corph yn ei freichiau.

YMOF. Galarus meddwl mor anystyriol a phechadurus oedd agwedd ein gwlad yn y dyddiau tywyll hyny; yn enwedig yn wyneb amgylchiad mor sobr a gweled un o flaen eu llygaid wedi myned trwy borth angeu i'r farn a thragywyddoldeb, a hwythau eu hunain ar syrthio dros y geulan. —Y mae yn gof genyf glywed fy nhaid yn son am ryw beth a elwid Diodlas, neu, Diodles. A gaf fi glywed genych pa beth oedd hwnw?

SYL. Pan ddygwyddai i ryw un farw mewn teulu, byddai rhywun tlawd a ddewisai y teulu yn cael y ffafr o dderbyn y gardod ddedwydd hono, sef y ddiodles. Y dull o'i rhoddi i'r tlawd oedd fel hyn; anfonai y teulu gwpan at wneuthurwr yr arch i'w lliwio yr un lliw a'r arch: (dau liw a arferid ar eirch y pryd hyny; lliw du ar eirch rhai wedi bod yn brïod, a lliw gwŷn ar eirch rhai sengl:) a phan ddeuai dydd y claddedigaeth, wedi dodi y corph ar elor, cyflwynai penaeth y tŷ yr elusen у goelgrefyddol i'r tlawd; sef forth fawr o fara da, a darn helaeth o gaws, a dryll o arian yn blanedig yn y caws, a llonaid y gwpan liwiedig o gwrw, os byddai, neu o laeth, gan eu hestyn dros y corph i'r tlawd.' Yntau a fendithiai, ac a weddïai yn ddwys a difrifol gydag enaid y marw. Arferai yr holl deulu, у Sul cyntaf ar ol claddu, fyned ar eu gliniau ar y bedd, pob un i ddywedyd ei Bader. Ac ni choffäent am neb o'u teulu na'u perthynasau, wedi eu meirw, heb ddywedyd yn ddefosiynol iawn, "Nefoedd iddo."