Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YMOF. Ni allaf lai na sýnu wrth glywed genych am gymaint o weddillion Pabyddiaeth a lynodd yn ein gwlad, wedi taflu yr iau Babaidd oddiar yddfau ein hynafiaid. Mae yn ddïau mai oddiar y dŷb wyrgam fod eneidiau ar ol marw yn myned i'r Purdan, y tarddodd yr arferiad o roddi dïodles dros y marw; ac hefyd, yr arferiad o ddywedyd, Nefoedd iddo, wrth son am un o'u cyfeillion trangcedig. O herwydd pe buasent yn credu fod pawb yn eu mynediad trwy borth angeu, yn myned yn ebrwydd, naill ai i'r nefoedd neu i uffern, ofer ac ynfyd yn eu golwg fuasai rhoddi gweddi nac offrwm drostynt byth mwy.

"Ffei o'r Pab a'i wael aberth,
Burdan gwael, a'i bardwn gwerth."

Mae arnaf chwant gwybod, onid yw yr arferiad o offrymu sydd yn aros eto yn ein mysg, yn sawru yn gryf o Babyddiaeth?

SYL. Sicr iawn mai Pabyddiaeth digymysg yw, er nad oes un o gant, yn ein dyddiau ni, yn edrych arno yn ddim amgen nag arfer gwlad, a thâl am gladdu. Dalier sylw fod y gair offrwm, ynddo ei hun, yn arwyddo rhywbeth mwy na chyflog am gladdu; sef rhyw aberth tuag at gael cymhorth gweddïau i brysuro yr enaid o'r lle poenus hwnw, sef y Purdan. Golygwch blant amddifaid, wrth gladdu eu tad caruaidd, neu eu hanwyl fam, yn dyfod at yr allor dan wylo dagrau, a'u calonau ar dori, wrth feddwl fod eu rhieni tirion yn poeni yn fflamau tanllyd y Purdan. Oni allech chwi feddwl yr offryment yn ewyllysgar, er mwyn eu cael ar frys oddiyno? Yr un modd, yn ddiau, y gwnai tad neu fam ar ol un o'u hanwyl blant. Ac am y perthynasau ereill, ynghydag amryw o'r cymydogion, ni allai y rhai hyny lai, o dosturi, nag aberthu rhyw gymaint dros eu hen gyfaill caredig, tuag at ei ddedwyddol ymwared o'r lle poenus hwnw.

YMOF. Mae drueni fod y ddefod goelgrefyddol hon yn cael ei dal i fyny yn barhaus. Diau y dylai yr Eglwyswyr eu hunain ei ffieiddio, a dywedyd yn onest yn ei herbyn. Ond am eu bod gan mwyaf heb ystyried ei natur, neu yn hytrach yn caru budr elw, gwell ganddynt dewi a son. Ond a oedd yn yr amseroedd gynt (ac eto fe allai yn ormodol) lawer o ofergoelion heblaw a soniasoch eisoes?

SYL. Oedd, beth aneirif. Llawer oedd yn coelio y medrai y rhai a fyddent yn dywedyd tesni neu ffortun, ragfynegu eu helyntion yn yspaid eu hoes. Cyrchu mawr a fyddai at ryw swynwr, pan fyddai dyn neu anifail yn glaf: a choel mawr fyddai gan lawer i'r Almanac. Sylw neillduol a fyddai ar bob math o freuddwydion gan y rhan fwyaf; a llawer iawn yn cymeryd arnynt eu deongli. Llawer ofergoelion a arferid wrth weled y lloer newydd: a braidd yr ehedai aderyn, ac y cai yr