Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ei chyfrif 'rwy'n rhagorfraint imi,
Yn 'r oes hon im' gael fy ngeni."

O! pa faint mwy ni, y rhai y cyfododd Haul cyfiawnder arnom, a meddyginiaeth yn ei esgyll. Ond cyn gadael yr hanes am ddull ein gwlad yr amseroedd gynt, dymunwn glywed genych pa fath athrawiaethau ac egwyddorion crefyddol oedd yn cael eu traddodi a'u derbyn yn y dyddiau hyny.

SYL. Anfucheddol iawn yn gyffredinol oedd yr athrawon, a thywyll a diffrwyth oedd eu hathrawiaethau: ac nid oedd un arwydd fod y gwynt nerthol a'r tân sanctaidd yn gweithredu drwyddynt. Swm a sylwedd yr athrawiaeth gan mwyaf oedd hyn; fod dyn yn cael ei ail-eni wrth ei fedyddio; a bod yn rhaid i bawb edifarhau a gwella ei fuchedd, a dyfod yn fynych i'r eglwys a'r cymun: bod raid i bawb wneyd ei oreu, ac y byddai i haeddiant Crist wneuthur i fyny yr hyn a fyddai yn ddiffygiol; ac mai ar law dyn ei hun yr oedd dewis neu wrthod gras a gogoniant. Cyfrifid cystudd corphorol yn foddion digonol (os nid yn deilyngdod) i addasu dynion i deyrnas nefoedd. —Hyn, ynghyda llawer o bethau cyffelyb, oedd gynt (os nad eto gan lawer) megys rheolau anffaeledig i'r gwrandawyr, wrth ddylyn pa rai (meddynt) y caent etifeddu teyrnas nefoedd.

YMOF. Dyma dywyllwch a ellir ei deimlo, fel hwnw yn yr Aipht gynt. Mae mor beryglus pwyso ar y pethau hyn ag ydyw adeiladu ar y tywod. Nid oes yma son am bechod gwreiddiol, na throi enaid o feddiant Satan, na bywhau trwy ras, na symud o farwolaeth i fywyd; na gair o son am argyhoeddi a dwys bigo y galon, na chrybwylliad unwaith am ffydd, heb yr hon ni ellir rhyngu bodd Duw, nac am gyfiawnhad rhad pechadur trwy gyfrifiad o gyfiawnder yr Arglwydd Iesu Grist, nac ychwaith am sancteiddiad yr Yspryd Glân. Rhag y fath athrawiaethau cyfeiliornus, gwared ni, Arglwydd daionus. Ond, ai yr un egwyddorion oedd gan y gwrandawyr a chan eu hathrawon?

SYL. Pa fodd y gellid dysgwyl yn amgenach? Digon i'r dysgybl fod fel ei athraw. Os dygwyddid weithiau son am enaid, Wele, meddant, os da y gwnawn da y cawn. Yr oeddynt o'r meddyliau y byddai clorian ddydd y farn i bwyso gweithredoedd pawb; as os y rhai da a fyddai drymaf, nefoedd wen i'r rheiny: ond os y gweithredoedd drwg a dröent y clorian, nid llai nag uffern byth a ellid ddysgwyl. Wrth ddyfod o'r addoliad, fe allai y dywedai ambell un lled ddefosiynol, "Onid oedd pregeth dda yn yr eglwys heddyw?" Oedd, oedd (atebai ereill,) pe gwnaem ond yr haner. Yr oedd y Llythyr dan y gareg yn gymeradwy iawn yn y dyddiau hyny, a choel