Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyny mewn amser ag yr oedd dirywiad trwm, nid yn unig yn yr Eglwys Sefydledig, ond hefyd yn mysg yr Ymneillduwyr. Wrth iddo ystyried fod y wlad gan mwyaf yn anllythyrenog, ac yn dra anwybodus, nid oedd ganddo, dros amser, ddim i'w wneuthur ond ymofidio o'r herwydd: ond daeth i'w feddwl i ystyried a oedd yn bosibl cael rhyw foddion i osod i fyny ysgolion rhad i ddysgu plant tlodion i ddarllen gair Duw, a'u hegwyddori mewn gwir grefydd. Dechreuodd ymosod yn egnïol at y gwaith, a llwyddodd yn ei amcan tu hwnt i bob dysgwyliad; ac o radd i radd, ymdaenodd yr ysgolion rhad dros y rhan fwyaf o holl ardaloedd Cymru, a rhyfedd fendithion a'u dylynodd. Cafodd Mr. Jones gymhorth gan amryw o wŷr cyfrifol a haelionus at y gorchwyl tra angenrheidiol hwn; ond y fwyaf nodedig oedd y bendefiges elusengar hòno, Mrs. Bevan, o Laugharne, yr hon oedd megys mam yn Israel. Cynaliodd hon yr ysgolion ymlaen, gan mwyaf ar ei thraul ei hun, hyd ddiwedd ei hoes, er fod Mr. Jones wedi gorphen ei yrfa flynyddau o'i blaen. Gadawodd ddeng mil o bunnau yn ei hewyllys tuag at barhad y gwaith elusengar hwn hyd ddiwedd amser: ond ryw fodd y mae y rhodd haelionus hono wedi ei throi i lwybr nad ydym ni yn Ngwynedd yn cael dim o'i llesad, na neb yn un man arall nemawr well erddi. Pan ddaeth yr ysgolion hyny gyntaf i Wynedd, daeth y gelyn ac a hauodd efrau yn mysg y gwenith. Trôdd golygwr yr ysgolion allan yn ddyn meddw, a hollol annuwiol; ac felly hefyd yr oedd y rhan fwyaf o'r ysgolfeistriaid. Ond er yr holl annhrefn oedd ar yr ysgolion, cafodd miloedd ynddynt y fraint o ddysgu darllen gair Duw. Ond tuag at atal llwyddiant yr ysgolion, taenwyd chwedl gelwyddog ar hyd y wlad, mai brenhines oedd Mrs. Bevan, ac y byddai yn galw am plant i ryw deyrnas arall: a bu hyn yn atalfa i rai yru eu plant i'r ysgol: eithr diddymwyd y dychymyg gwyrgam hwnw cyn pen hir. Ond er pob peth gellir priodoli dechreuad y diwygiad i'r ysgolion rhad, pa rai a fu fel caniad y ceiliog yn arwyddo fod gwawr y bore ar ymddangos.

YMOF." Ni feddyliais erioed o'r blaen fod yr ysgolion hyny wedi bod mor ddefnyddiol i ragbarotoi y ffordd i gael Dagon i lawr. Ond pa beth oedd yr arwydd cyntaf yn ein gwlad ni, os gellwch gofio, fod gwawr y bore yn nesâu, heblaw yr ysgolion?

SYL. Yr oedd gwr yn byw gerllaw Nefyn, mewn lle a elwir Nant Gwrtheyrn, mewn blinder meddwl ynghylch mater ei enaid. Pa un ai yn ddigyfrwng ai trwy foddion y gweithiodd hyny arno, nis gallaf ddywedyd. Pa fodd bynag, yr oedd yn barnu yn benderfynol nad oedd ef na'i gymydogion yn feddiannol ar rym duwioldeb. Enw y gŵr oedd John Roberts. Yn ei drallod, breuddwydiodd iddo weled megys pen yn dyfod