Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oddiwrth y Dehau, ac yn goleuo y wlad; ac yn llefain, nes bod cyffro a deffroad trwy'r ardaloedd. Trwy hyny credodd y cai weled diwygiad yn y wlad cyn hir; ac felly y bu. Canys yn fuan wedi hyny y torodd diwygiad allan trwy Loegr, Scotland, ac America; a ninau y Cymry tlodion a gawsom gyfranogi yn helaeth o hono. A chafodd y gwr a freuddwydiodd weled a phrofi yn sylweddol yr hyn y breuddwydiodd am dano, a bu yn aelod defnyddiol yn eglwys Dduw hyd ddiwedd ei oes.

YMOF. Y mae hyn yn dwyn ar gôf i mi eiriau yr apostol, "Duw wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd." Dywed Elihu hefyd, Fod Duw yn llefaru unwaith, ïe, ddwywaith, ond ni ddeall dyn: trwy hûn, a thrwy weledigaeth nos, &c. Ond adroddwch rywbeth eto yn flaenorol i'r diwygiad.

SYL. Yr oedd yn byw yn y dyddiau hyny yn Nglasfryn fawr, plwyf Llangybi, yn Eifionydd, un William Prichard, yr hwn oedd wr cyfrifol, bywiog ei gyneddfau, ac yn fwy awdurdodol yn ei ardal na llawer o'i sefyllfa. Ar ryw noswaith wrth ddyfod adref, dyrysodd gan dywyllwch y nos, a chollodd ei ffordd, fel nas gwyddai pa le yr ydoedd: ond o'r diwedd gwelodd oleuni o ffenestr, a chyrchodd ato. Adnabu y lle yn ebrwydd, sef mai Pen-cae-newydd ydoedd. Yn y cyfamser yr oedd gwr y tŷ yn darllen pennod yn y teulu. Wrth weled hyny, tarawodd fel saeth i'w feddyliau, fod ganddo yntau deulu, ac na byddai ef un amser yn arferu hyn yn eu mysg. Ar ol darllen, sylwodd gwr y tŷ ar ryw bethau yn y bennod, er addysg i'w deulu. Aeth hyn hefyd yn ddwys i'w feddyliau, na byddai ef yn dywedyd dim wrth ei deulu am gyflwr eu heneidiau. Wedi hyn aeth gwr y tŷ i weddïo. Aeth hyn yn ddwysach na'r cwbl at feddyliau y gŵr oedd yn y ffenestr, wrth feddwl na byddai ef un amser yn plygu ei liniau i weddïo gyda'i deulu. Aeth y gŵr adref dan ddwys ystyriaeth o'i gyflwr ei hun a'i deulu, a gwelwyd yn ganlynol ddiwygiad amlwg arno. Yr oedd lle yn yr ardal y byddai mawr gyrchu iddo gan lawer i halogi y Sabbath, trwy lawer math o chwareuyddiaethau. Methodd y gwr hwn, o gydwybod, oddef iddynt halogi dydd yr Arglwydd; ond aeth atynt yn wrol, gan ddangos iddynt y perygl o dori gorchymyn Duw; ac ni feiddiai neb mwyach ymgasglu yno o'r dydd hwnw allan. Enw y gŵr oedd yn darllen ac yn gweddio yn ei deulu oedd Francis Evans (Ymneillduwr o ran ei broffes.) Mewn lle a elwir Cae'r tyddyn y bu fyw y rhan olaf o'i ddyddiau, yn amlwg mewn duwioldeb, nes gorphen ei daith yn llawen a gorfoleddus.

YMOF. Nid yw addoliad i Dduw mewn teulu ond peth distadl iawn yn nghyfrif llawer: ond dylem ei olygu yn ddyledswydd ac yn fraint; ïe, braint nodedig yw cael cydymostwng