Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o flaen ein Tad nefol, i dalu diolch iddo am ei drugareddau, ac i erfyn am ei fendith. Dywedai Josua (er cymaint o orchwylion oedd ganddo mewn llaw,) Myfi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd. Yr wyf yn cofio i mi ddarllen yn y Drysorfa, hanes nodedig am ŵr crefyddol yn trin llawer o fasnach fydol, ac er hyny yn cynal addoliad i Dduw gyda'i deulu a'i brentisiaid yn gyson hwyr a bore; bendithion nef a daear oedd yn disgyn yn gawodydd tra bu yn gwneuthur felly. Ond fel yr oedd y fasnach yn cynyddu, dechreuodd esgeuluso addoliad teuluaidd y bore, gan feddwl (er mai yn groes i'w gydwybod,) os cyflawnai y ddyledswydd gyda'i wraig, y gwnai hyny y tro, a gadael y teulu ereill wrth eu gorchwylion. Wedi treulio talm o amser fel hyn, derbyniodd lythyr o Lundain, oddiwrth hen brentis iddo, yn mha un yr oedd hwnw yn addef, nas gallai fyth, fyth, fod yn ddigon diolchgar i'w feistr am y rhagorfraint a gawsai yn ei deulu, sef cyfranogi o'r addoliad teuluaidd: na byth fod yn ddigon diolchgar i Dduw, am y fendith a gawsai yn yr ymarferiad o hono. Dymunodd ar ei feistr, gyda'r taerineb mwyaf, na byddai iddo byth, byth, esgeuluso y cyflawniadau hyny, gan hyderu fod ganddo brentisiaid a thylwyth i gael eu hail-eni yn ei deulu eto. Effeithiodd y llythyr yn ddwys ar feddyliau y gŵr; yr oedd pob llinell o hono yn melltenu yn arswydus yn ei wyneb. Cyfrifodd ei hun yn llofrudd ei deulu: gofidiodd a galarodd yn chwerwdost, a llefodd yn daer am faddeuant. Ac ni esgeulusodd wedi hyny gadw yr addoliad yn mysg ei holl deulu tra fu byw. Ond er i mi fyned ychydig o'r llwybr, gobeithio y maddeuwch i mi am goffau yr adroddiad uchod am yr effeithiau a'r fendith sydd yn cydfyned âg addoli Duw mewn teulu. Ond ewch rhagoch â'r hanes.

SYL. Yn fuan ar ol hyn daeth Mr. Lewis Rees i Bwllheli i bregethu, yr hwn oedd weinidog deffrous a llafurus, a nodedig iawn mewn gweddi, yn enwedig yn ei ddyddiau boreuol, yn mysg yr Ymneillduwyr, ac a fu yn offerynol yn ei oes i alw llawer at Dduw. Ar ol y bregeth, aeth yr ychydig gyfeillion ato, i gael rhagor o'i gyfeillach; a dechreuasant gwyno wrtho eu bod yn isel ac yn ddigalon: neb o'r newydd yn dyfod atynt, a'r gwrandawyr yn lleihau. Anogodd yntau hwynt i beidio llwfrhau ac ymollwng yn ormodol.[1] Ebe ef, Y mae y Wawr

  1. Mae'n amlwg fod agwedd ddeffrous ar grefyddwyr yn amser yr erlidigaeth, ond ar ol caniatâu rhyddid cydwybod (er mor hyfryd a siriol oedd cael gwaredigaeth o ddwylaw erlidwyr creulon,) eto buan iawn yr aeth yr eglwys yn fwy cysglyd, ac yr adfeiliodd crefydd i raddau mawr yn mysg y rhan fwyaf o'r Ymneillduwyr dros lawer o flynyddoedd; er fod rhai gweinidogion deffrous a defnyddiol yn eu plith yn yr hir auaf diffrwyth hyn. Trueni fod haf mor hyfryd o dawelwch yn magu bwystfilod gwenwynig, sef cysgadrwydd, ffurfioldeb, ac iechyd yspryd; a gwaeth na hyny, cofleidio â thaenu ar led yr athrawiaethau mwyaf cyfeiliornus, nid amgen Ariaeth a Soziniaeth, megys y mae amryw o'r Presbyteriaid wedi gwneyd er's llawer o flynyddoedd.