Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nefol yn dechreu tori gyda ni yn y Deheudir. Y mae acw ryw ddyn rhyfedd iawn wedi codi yn ddiweddar, a elwir Mr. Howell Harris; ac y mae yn myned oddiamgylch, i'r trefydd, a'r pentrefydd, y prif-ffyrdd, a'r caeau; ac fel ôg fawr y mae yn rhwygo y ffordd y cerddo. O! (meddynt hwythau) na chaem ef yma i'n plith ni. Fe allai y daw ef, ebe yntau. Dywedodd yn mhellach wrthynt, fod dyn gerllaw'r Bala, a elwir Jenkin Morgan, yn cadw'r ysgol râd, dan Mr. Griffith Jones, a'i fod yn cynghori ar hyd y cymydogaethau yn ddeffrous ac yn llwyddiannus. A oes posibl (meddynt hwythau) cael hwnw i'n plith ni, neu i'n gwlad? Atebodd Mr. Lewis Rees, mai tan aden eglwys Loegr yr oedd yr ysgol a'r meistr (er iddo wedi hyny ymneillduo, a chael ei ddewis yn weinidog yn Môn.) Pe gallech gael rhyw wr cyfrifol yn yr ardal yn caru crefydd, heb gymeryd arno yr enw o Ymneillduwr, fe allai y llwyddai hwnw gyda'r person i gael yr ysgol i'r Llan. Daeth yn fuan i feddyliau y cyfeillion am y gŵr a soniwyd am dano o'r blaen, sef William Prichard o Lasfryn fawr, mai efe oedd y cymhwysaf o bawb a wyddent am dano i gymeryd y gorchwyl mewn llaw.

Y bore Llun canlynol, cymerodd y gŵr a grybwyllwyd o'r blaen, sef Francis Evans, ei daith i'r Bala, a llwyddodd i gael yr ysgolfeistr gydag ef adref: a rhag i neb dybio ei fod yn Ymneillduwr, aeth ag ef yn uniongyrchol heibio ei gartref ei hun i Lasfryn fawr at William Prichard. Bu gwr y tŷ mor gymwynasgar a myned at offeiriad y plwyf a deisyf ei ffafr am genad i'r ysgol fyned i'r Llan. Cafodd nacâd hollawl gan hwnw (oddiar y dŷb, mae'n debyg, fod yr ysgolfeistr yn un o'r crefyddwyr.) Os oes genych chwi awdurdod ar eich eglwys (ebe W. P.) y mae genyf finau awdurdod ar fy nghegin; caiff gadw yr ysgol yno: ac felly fu. Wedi dechreu yr ysgol, daeth yno fagad o blant, a rhai mewn oedran. Byddai yr ysgolfeistr yn ddiwyd iawn wrth ei orchwyl; yn dysgu iddynt ddarllen, eu cateceisio, a gweddïo fore a hwyr gyda'r ysgolheigion. Llunid cyfarfodydd iddo i gynghori neu bregethu, a deuai cryn nifer i wrando arno; a bu yno radd o arddeliad ar y gair. Nid oedd un man ond Glasfryn fawr (hyd y deallais i) y cai dderbyniad. Yr oedd y pryd hyny eneth seml, yn caru crefydd, yn byw gyda'i nain, yn y Tywyn, yn agos i Dydweiliog. Clywodd yr eneth son am yr ysgolfeistr; a bu daer ar ei nain am genad iddo ddyfod yno i gynghori. Wedi iddi lwyddo, gwahoddwyd ychydig o'r cymydogion i ddyfod i'r oedfa, a hyny mor ddirgel ag a ellid.—Fel yr oedd un tro yn Nglasfryn fawr daeth yno ddyn ar yr oedfa, a cherig yn ei boced, gan fwriadu eu hergydio ato: ond yn lle cyflawni ei amcan, arddelodd Duw ei air i gyrhaedd ei galon, fel y gorfu iddo ollwng y cerig i lawr o un i un. Bu y gŵr o hyny allan âg argoelion amlwg o dduw-