Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Arglwydd iddo. Yr oedd effeithiau tra nerthol yn dylyn ei weinidogaeth, a llwyddiant mawr a ddylynodd ei genadwri. Llawer a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a wir ddychwelwyd at yr Arglwydd. Fel yr oedd yn llwyddo, cododd erlid mawr arno yn fuan. Y pen swyddwyr a fygythient ei gospi, yr offeiriaid a bregethent yn ei erbyn, gan ei ddarlunio fel twyllwr a gau brophwyd, a'r gwerinos a fyddent, agos ymhob man, yn terfysgu ac yn lluchio yn wallgofus y pethau cyntaf a gaent i'r dwylaw. Rhy faith fyddai adrodd yr erlidiau dychrynllyd yr aeth drwyddynt yn agos i'r Cemmaes, Machynlleth, y Bala, Caerlleon-ar-wysg, Mynwy, ac amrywiol fanau ereill yn Lloegr a Chymru. Dygwyddodd pan oedd yn gadpen ar y Milisia Sir Frycheiniog, ac yntau gyda'i wŷr mewn rhyw dref yn Lloegr, ymofyn o hono a oedd dim pregethu yn y dref hòno. Dywedodd rhyw un wrtho, fod ymgais i hyny wedi bod hir amser aeth heibio, yn nhŷ rhyw wraig dlawd yn y dref, ond bod hyny wedi cael ei lwyr ddiddymu yno. Aeth yntau at y wraig, ac a ofynodd iddi, a roddai hi genad iddo ef bregethu wrth ei thy? Atebodd hithau, ei bod yn ofni mai gwaith ofer oedd cynyg ar y fath beth: ond ei bod yn ddigon boddlon, os у anturiai efe. Archodd Mr. Harris daenu y gair drwy y dref fod yno wr i bregethu, gan benu y lle a'r awr. Trefnodd y Milisia i sefyll o'i amgylch, a rhoes wisg am dano ar ei ddillad milwraidd. Ond gyda'i fod yn dechreu pregethu, dyma yr erlidwyr yn dechreu ymgasglu yno o bob cwr, mewn eithaf afreolaeth. Gwaeddodd yntau, " Dystawrwydd yn enw Brenin y nefoedd." Ond cynyddu yr oedd y terfysg. Yna yn ebrwydd diosgodd y wisg uchaf, nes oedd y wisg filwraidd yn y golwg, a gwaeddodd allan yr ail waith, Dystawrwydd yn enw George yr ail;" ac ar hyny dechreuodd y drums chwareu. Brawychodd y terfysgwyr yn ddirfawr, a chafodd yntau lonydd i bregethu. Cafodd gyfleusdra i ddangos iddynt mor amharchus oeddynt o Frenin y nefoedd, pan na ostegent yn ei enw ef i wrando llais yr efengyl: ond i arswyd eu dal pan glywsant swn drums Brenin Lloegr.

YMOF. Pa bryd y daeth Mr. Howell Harris i Sir Gaernarfon? a phwy a'i derbyniodd ef yno y tro cyntaf i bregethu?

SYL. Y flwyddyn y daeth i Sir Gaernarfon oedd 1741. Daeth i Bwllheli ar nos Sadwrn, a gofynodd y bore Sabbath, pa le yr oedd y pregethwr goreu yn yr Eglwys yn y parthau hyny Dywedwyd wrtho fod y Canghellwr (Chancellor) yn pregethu yn agos yno, sef yn Llannor. Aeth yno a chlywodd bregeth ryfedd am dano ei hun. Yr oedd y Canghellwr, mae'n debyg, wedi clywed ei fod yn bwriadu dyfod i'r wlad, ac o herwydd hyny rhag-rybuddiodd ei wrandawyr i ochelyd yr heretic melldigedig. Gosododd ef allan yn ei bregeth yn genad dros