Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Satan, yn elyn Duw a'i eglwys, ac hefyd yn elyn i holl ddynol. ryw. Galwodd ef yn weinidog dros y cythraul, yn dwyllwr a gau-brophwyd, ac yn llawer gwaeth nag un anghenfil o heretic, ïe, yn waeth na'r diafol ei hun. Anogodd ei wrandawyr yn ddifrifol, gariad at Dduw a'i Eglwys, a'u gwlad, i wrthsefyll yn unfryd y cyfryw ddyn ofnadwy ag oedd debyg o ddinystrio nid yn unig eu meddiannau, ond hefyd eu heneidiau anfarwol, &c. Nis gwyddai ef na'r bobl fod Mr. Harris yno yn gwrando. Wedi dyfod allan o'r Llan, aeth i ymddiddan â'r Eglwyswr yn nghylch gosod i fyny ysgolion rhad yn y wlad, ac i'w alw i gyfrif am ei bregeth. Deallodd y bobl mai efe oedd y gŵr a nodasid yn y bregeth, ac yna yn ddiymaros dechreuwyd ergydio y cerig ato yn dra ffyrnig, ond diangodd o'u dwylaw heb gael llawer o niwaid. Ar ei ddychweliad yn ol, cafodd ei erlid yn Mhenmorfa, ond ni wnaed llawer o niwaid iddo yno.

YMOF. Mae yn amlwg wrth yr hyn a ddywedasoch, fod y ddraig a'i hâd wedi cynhyrfu yn fore i ddal i fyny deyrnas y tywyllwch. Yr wyf wedi synu fod y fath araith gableddus wedi dyfod allan o enau neb ag oedd o dan yr enw gweinidog, yr efengyl: oblegyd pe buasai y diafol ei hun yn cael esgyn i bulpud, a chael benthyg gwenwisg, a gallu, fel asen Balaam, lefaru mewn iaith ddynol, a ellir barnu y gallasai wneuthur yn amgenach? Ond ewch ymlaen i fynegi am waith Mr. Harris yn pregethu yn y wlad hon, a phwy a'i derbyniodd gyntaf.

SYL. Pa un ai ar ei ddyfodiad cyntaf i'r wlad, neu ynte ar ei ddychweliad o'r wlad, y bu yn Llannor, ni allaf ddywedyd: ond sicr yw mai yn Nglasfryn fawr, yn nhŷ William Prichard, y pregethodd gyntaf. A chyda ei fod yn dechreu pregethu, dyma offeiriad y plwyf, a haid o oferwyr gwamal yn gynorthwy iddo, yn dylyn ei sodlau. Rhuthrodd yr offeiriad yn mlaen at y pregethwr, yr hwn, wrth weled terfysg yn dechreu, a roes heibio bregethu, ac a aeth ar ei liniau i weddïo. Pan ddaeth yr offeiriad hyd ato, rhoddes ei law ar ei enau, i atal i neb ei glywed. Cododd Mr. Harris i fyny, a dywedodd wrtho, "Pa beth yw hyn yr ydych yn ei wneuthur? a rwystrwch chwi ddyn i weddïo ar Dduw? Byddaf dyst yn eich erbyn am hyn yn nydd y farn." "Byddaf fi yn dyst yn dy erbyn di, y burgun budr (ebe yr offeiriad wrtho yntau,) am dy fod yn myned ar hyd y wlad i dwyllo y bobl. Yna galwodd yr offeiriad yn groch ar un o'i ffyddlon ganlynwyr, gan alw arno wrth ei enw am ddyfod ymlaen. Yntau yn sefyll draw, ac yn eu clywed yn son am y farn, a ddywedodd yn lled uchel, "A glywch chwi, a glywch chwi ar y gwŷr! Ni wn i pa un ffolaf o honoch eich dau. Ni feiddia un o honoch ddywedyd gair yno." Ar hyny gwr y tŷ a drôdd yr offeiriad allan, ac a gauodd y drws ar ei ol. Ar ol llonyddu y terfysg, rhoddes Mr. Harris