Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gynyg eilwaith ar bregethu; ond ni chafodd nemawr o hwylusdod, gan fod ei feddyliau wedi terfysgu yn y cythrwfl. Cynghorodd bawb i ymwrthod â'r cyfryw fugeiliaid didduw, gan ymddidoli a chilio oddiwrthynt. Yr ail le y cafodd bregethu oedd Ty'n Llanfihangel, gerllaw Rhyd y clafdy. Ymgasglodd yno dyrfa fawr i wrando arno. Yr oedd y gair wedi ymdaenu ar hyd y wlad mai dyn wedi bod mewn gweledigaeth ydoedd, yr hyn beth oedd yn cael derbyniad difrifol gan lawer yn y dyddiau hyny. Daeth ypo, yn mysg ereill, wr boneddig tra gelyniaethol, mewn bwriad o'i (saethu ef gan na ddaeth y pregethwr yn union at yr amser addawedig, blinodd y gwr boneddig yn dysgwyl, ac aeth adref i'w giniaw. Erbyn hyn yr oedd Mr. Harris yno. Safodd wrth ochr y tŷ, a chafodd gymhorth anghyffredin i lefaru. Soniodd, yn mysg pethau ereill, fel y byddai dynion yn rhyfygu dywedyd wrth Dduw, "Deued dy deyrnas." Beth, meddai ef, pe b'ai yr Arglwydd yn dyfod gyda gallu a gogoniant mawr, gyda miloedd o angylion, ac a thân fflamllyd? Oni byddit yn barod i waeddi, yn lle Deued dy deyrnas, o Arglwydd, aros ronyn: nid wyf fi barod. Bu y fath effeithiau drwy y weinidogaeth, yr oedfa hòno, nes oedd llawer yn methu sefyll, ond yn cwympo i lawr ar y ddaear: ac wrth fyned i'w cartrefi yn llefain ac yn wylo ar hyd y ffordd, fel pe buasai y waedd haner nos yn swnio yn eu clustiau. Y dydd canlynol pregethodd yn y Tywyn, yn agos i Tydweiliog; arddelodd Duw yr oedfa hono hefyd mewn modd neillduol. Cafodd llawer yno eu gwir ddychwelyd, y rhai a fuont wedi hyny yn addurn i'w proffes ac yn ddefnyddiol yn eu hoes. Un o honynt oedd John Griffith, yr hwn a fu dros amser yn athraw defnyddiol yn yr eglwys; er iddo wedi hyny gael ei lusgo i leoedd lleidiog, a bod o dan wrthgiliad dwfn lawer o flynyddoedd: ond fe ymwelodd Duw ag ef drachefn; fel Samson gynt, gwallt ei ben a ddechreuodd dyfu, daeth adref yn amlwg i dŷ ei Dad cyn nos. Yr oedfa hono y cafodd un o ferched y Tyddyn mawr ei galw, yr hon a fu wraig i Mr. Jenkin Morgan, y soniwyd am dano o'r blaen. Yr oedd pedair o chwiorydd o honynt, ac yn cael eu cyfrif yn ferched gweddus a synwyrol, ac yn barchus yn eu hardal. Cafodd y tair ereill eu galw cyn pen hir, a buont fel cynifer o famaethod ymgeleddgar gydag achos Duw mewn dyddiau ag y gallesid gofyn yn briodol, "Pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.". Bu y Tyddyn mawr, a rhai manau ereill yn y gymydogaeth, fel gwlad Gosen gynt, yn noddfa gysurus i'r pererinion lluddedig, wedi bod mewn 'stormydd o erlidigaethau.—Mewn dau le arall y pregethodd Mr. Harris yn y wlad yma y tro hwnw, sef y Rhydolion, yn agos i Lanengan, a Phortinlleyn. Am y lle cyntaf, sef y Rhydolion, oedfa galed a gafodd ef yno,