Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heb nemawr o arddeliad fel y cawsai o'r blaen; ond ni chlywais ddim am yr oedfa yn Portinlleyn, na da na drwg.

YMOF. Pa fath agwedd oedd ar y dychwelwyr ieuaingc hyn yn more eu crefydd? Ac yn mha le yr oeddynt yn cael didwyll laeth y gair i ymborthi arno?

SYL. Yr oedd eu dull syml, sobr, a phwysig, yn gywilydd mawr i'r rhan fwyaf o broffeswyr ein dyddiau ni. Yr oedd eu cydwybodau yn dyner, eu calonau yn ddrylliog, ac ofn Duw o flaen eu llygaid. Nid oedd pleser mewn coeg-wisgoedd, na blâs ar gellwair a choeg-ddigrifwch yn y dyddiau hyny. Cyfeillach yr annuwiolion oedd ofid calon iddynt. Yr oeddynt yn barchus iawn o'r Sabbath, ac yn wyliadwrus rhag ei halogi. Gweddïent yn fynych bymtheg gwaith yn y dydd, a'u cri yn feunyddiol oedd, Pa beth a wnawn fel y byddom gadwedig? Mewn gair, yr oedd eu holl agweddau yn tystio eu bod yn treulio eu dyddiau fel rhai yn ngolwg byd arall. Wrth ystyried y dirywiad a'r ysgafnder, yr anghariad, balchder, y cybydddod a'r cnawdolrwydd sydd wedi goresgyn llawer o broffeswyr yr amser pesennol, mae yn bryd gwaeddi allan gyda Job, o na baem fel yn y misoedd o'r blaen! Am yr hyn a ofynasoch drachefn, sef pa le y byddent yn cael llaeth y gair i ymborthi arno—unodd llawer â Mr. John Thomas, yn Mhwllheli, sef yr hen weinidog duwiol y soniwyd o'r blaen am dano. Erbyn hyn yr oedd yr erlidigaeth yn cynyddu yn ddirfawr. Teflid cerig trwy ffenestri Capel Pwllheli, ïe, weithiau teflid hwy mor egnïol trwy un ffenestr nes y byddent yn myned allan trwy ffenestr arall, a hyny yn amser yr addoliad, fel y byddai y gwrandawyr yn fynych mewn perygl bywyd. Erbyn dyfod allan, byddai torf yn eu dysgwyl yn mhen y dref; yr un modd wrth yr Efail newydd, a Rhyd y clafdy. Ni rusent luchio cerig atynt nes y byddai y trueiniaid â'u gwaed yn llifo wrth fyned i'w cartrefi. Llechai rhai o'r erlidwyr tu draw i'r cloddiau, er mwyn cael cyfleusdra gwell i anelu atynt. Ond er yr holl elyniaeth a'r erlid, llwyddo yr oedd crefydd. Yn yr amser hyny daeth yma un Mr. Evan Williams, o'r Deheudir, dros ychydig. Ymgasglodd torf o erlidwyr, ac wedi cael un i'w gafael eisoes, sef John Jones, o'r Penrhyn, Llaniestyn, daethant fel llewod i'r Tyddyn mawr, a chwiliasant y tŷ yn fanwl; ond yr oedd y teulu, wrth ddeall eu bod ar fedr dal Mr. E. Williams, wedi ei guddio mewn cwpwrdd: ac er i un o honynt daro y cwpwrdd â'i droed, dan dyngu a rhegi, a dywedyd, Fe allai mai dyma lle mae ef," er hyny ni chawsant ef. A thra buont yn chwilio y tŷ, diangodd Mr. John Jones hefyd yn ddystaw o'u mysg, a gorfu arnynt fyned ymaith heb un o'r ddau. Wrth weled nad oedd un argoel llonyddwch iddo yn y wlad hon, ymroddodd E. Williams i fyned i'w wlad ei hun; a