Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymneillduwyr, ac yn arogli yn beraidd yn mhob ymarferiad o dduwioldeb; a than wrandawiad y gwr duwiol hwnw y cyrchai yr holl ardaloedd, fel nad oedd y Llanau ond lled weigion oddi amgylch yno yn y dyddiau hyny. Dechreuodd Mr. Rowlands geisio chwilio allan pa beth oedd yr achos o hyny. Meddyliodd ynddo ei hun mai pregethu tân uffern a damnedigaeth yr oedd gweinidogion yr Ymneillduwyr: a dywedodd ynddo ei hun, "Pa beth sydd gan yr ben Mr. Pugh i'w wrandawyr lluosog, ond hyny? ac oni allaf finau bregethu felly?". Yn fuan dechreuodd ar y gorchwyl yn y modd hwnw: chwiliodd am y testynau llymaf o fewn y Bibl i bregethu oddi wrthynt, sef y rhai a osodent allan druenus gyflwr yr annuwiol mewn byd arall, a'r gosp ddyledus am bechod ag oedd yn sicr o ddisgyn arnynt i dragywyddoldeb, megys y testynau canlynol, "Yr annuwiolion a ymchwelant i uffern. Daeth dydd mawr ei ddigter ef.—Y rhai hyn a ant i gospedigaeth dragywyddol. Ewch oddiwrthyf, rai melldigedig, i'r tân tragywyddol," yn nghydag amryw destynau o'r fath. Yn fuan iawn dechreuodd y bobl ymgasglu yn dorfeydd i wrando arno, ac felly fwy fwy, у naill dro ar ol y llall, a'r gair bywiol yn dechreu dwysbigo calonau amryw. Yr oedd rhai yn barnu nad oedd dim llai na chant dan ddwys argyhoeddiad cyn i ddim arwyddion neillduol o grefydd ymddangos yn y gweinidog ei hun.

Yn y dyddiau hyny byddai G. Jones, o Landdowror, yn dyfod i bregethu i amryw o Eglwysydd yn y wlad; ac fel yr oedd un tro wedi dyfod i bregethu i Landdewi brefi, gerllaw Llangeitho, aeth lluoedd oddiyno, ynghyda'r ardaloedd cymydogaethol, wrando arno; ac yn eu plith aeth Mr. D. Rowlands. Cafodd pregeth y gwr enwog hwn y cyfryw effaith ddwys ar ei feddyliau, fel y syrthiodd i'r fath raddau o ddigalondid ag y penderfynodd na anturiai bregethu byth mwy. Fel yr oedd y bobl yn dychwelyd i'w cartrefi, nid oedd ganddynt ar hyd y ffordd ond son am y bregeth, a phawb yn cyd-ddywedyd na chlywsent erioed o'r blaen bregeth o'i bath. Ond po mwyaf yr oeddynt hwy yn canmol y bregeth, dyfnaf yr oedd yntau yn soddi i ddigalondid. Ond yr oedd un gŵr yn eu plith, yn marchogaeth wrth ystlys Mr. Rowlands, a dywedodd hwnw wrth y rhai oedd yn mawrygu y bregeth, "Wel, wel, canmolwch chwi a fynoch ar y cyfarfod heddyw, ni chefais i ddim budd ynddo: y mae genyf fi achos i ddiolch i Dduw am offeiriad bach Llangeitho," (gan daro ei law ar ei ysgwydd ef.). Ar hyny teimlodd ei gadwynau i ryw raddau yn cael eu tori, a'i yspryd ymollyngar yn cael ei adfywio, fel y dywedodd ynddo ei hun, "Pwy, a wyr na wna yr Arglwydd ryw ddefnydd o honof finau, greadur gwael?" A chyn pen nemawr torodd y Wawr ar ei enaid tlawd, ac amryw o'i wrandawyr: ar ol llawer o'storm-