Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y RHAGYMADRODD.

GARIDIG GYFEILLION,

NID oes odid o genedl ag sydd yn meddu gradd o ddysgeidiaeth, wedi bod, hyd yn ddiweddar, yn fwy difraw a musgrell am gadw coffadwriaeth o lawer o bethau tra nodedig a ddygwyddasant yn eu plith, na'r Cymry. Mae yn wir eu bod faith oesoedd heb fanteision i helaethu eu gwybodaeth. Ychydig o honynt, tua'r unfed ganrif ar bymtheg, a fedrai ddarllen; a llawer llai yr oesoedd cyn hyny. Nid oedd (amser maith ar ol hyn) ond ychydig o lyfrau Cymraeg yn argraffedig: ond yn awr mae yr addewid hono yn dechreu cael ei chyflawni, "Llawer a gyniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Mae yn wir fod breintiau ein cenedl ni yn bresenol (trwy ddaioni Duw) yn dra helaeth. Gall yr Arglwydd ddywedyd yn briodol am ein gwlad, megys y dywedodd gynt am ei winllan, "Beth oedd i'w wneuthur ychwaneg i'm gwinllan nag a wnaethum ynddi ?" Mae yn ddiau i bwy bynag y rhoddir llawer, llawer a ofynir ganddo. Fe allai fod rhai ag sydd yn ceisio darllen, ïe, i fuddioldeb, yn addef fod y Bibl, a llyfrau da ereill, yn llesol i'w darllen, ond yn methu a deall fod darllen llyfrau hanesiaeth ond hollol afreidiol. Ystyried y cyfryw, fod llyfr da Duw, sef y Bibl, a rhan fawr o hono yn hanesiol, fel y gwelir yn yr Hen Destament a'r Newydd. Gobeithiaf nad oes neb sydd yn addef dwyfoldeb yr Ysgrythyrau, yn gallu cyfrif y rhanau hanesiol hyny o honynt yn afreidiol; "Canys holl air Duw sydd bur."

Pe na buasai genym ond y rhanau athrawiaethol yn unig o'r Ysgrythyrau, pa fodd y cawsem wybod pwy a greodd y bydoedd! ac yn mha gyflwr yr oedd ein rhieni cyntaf yn Eden cyn cwympo? a'r modd gwarthus y syrthiodd Adda a'i wraig fel dwy seren, o uchder dedwyddwch i ddyfnder trueni, ynghyda'u holl hiliogaeth i'r unrhyw bydew dinystriol! Ac os buasai rhyw draddodiadau amherffaith wedi dyfod i ni, o dad i fab, ac o fab i wyr, o'r cynfyd am eu cwymp,