Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydd ac argyhoeddiadau grymus, llanwyd eu heneidiau â gorfoledd yr iachawdwriaeth nes oedd sain cân a moliant yn llanw y cynulleidfaoedd. A dyna ddechreuad y gorfoledd ymhlith y Methodistiaid, ag sydd a chymaint o ddywedyd yn ei erbyn gan lawer.-Un tro pan oedd yn pregethu ar fore Sabbath yn Llangeitho, disgynodd y fath weithrediadau grymus ar ei yspryd ef ac ar amryw o'r gwrandawyr, nes iddynt lwyr anghofio eu bod yno gynifer o oriau. Meddyliodd Mr. Rowlands ddybenu ryw bryd ar y bregeth: ond ystyriodd drachefn ei bod yn afresymol iddo ddybenu mor fuan; ond yn y man, er mawr syndod iddo, fe ganfu yr haul yn tywynu i'r Llan trwy y drws gorllewinol, ac yna dybenodd yn ebrwydd. Yr oedd gwrandawyr Mr. Pugh erbyn hyn yn cilio yn lluoedd i Langeitho; a'r hen wr duwiol, yn lle cynfigenu, yn anog ei gynulleidfa a'r gwrandawyr yn siriol i fyned yno. Ryw bryd, pan ddaeth un o'i gynulleidfa ato i achwyn fod Mr. Rowlards wedi cyfeiliorni mewn rhyw bwngc o athrawiaeth, dywedodd yntau, Na chondemniwch ef: plentyn yw efe: fe'i dysg ei Dad nefol ef yn well.—Yr wyf fi yn credu yn sicr fod yr Arglwydd mewn modd neillduol yn ei arddel, a bod ganddo waith mawr iddo i'w wneuthur. Nid hir y bu yr hen weinidog duwiol heb orphen ei yrfa mewn tangnefedd, ac yr oedd yn dawel foddlon fod y golofn yn myned y ffordd yr oedd yn myned. Nid hir wedi hyny y bu Mr. Rowlands heb fyned o amgylch amryw barthau o'r Deheudir i bregethu. Unodd a Howell Harris: a chododd yr Arglwydd amryw ereill y pryd hyny o wŷr deffrous a llawn o sêl dduwiol, y rhai a fuont yn ddefnyddiol iawn i'r eglwys yn eu hoes, sef William Williams, Peter Williams, a Howell Davies. Yr oedd y rhai hyn yn weinidogion o'r Eglwys Sefydledig. Codwyd llawer ereill hefyd i lefaru, o rai heb gael eu hurddo gan esgob; a gelwid y rhai hyny, Cynghorwyr; yr oedd amryw o honynt yn ddiwyd dros achos yr Arglwydd, ac yn ffyddlon a llafurus yn eu hoes, ac o fendith i lawer. Ond i fod yn fyr: er nad oedd fawr neb llai yn ei olwg ei hun na Rowlands, er hyny yr oedd ei gynydd a'i gymeradwyaeth gan y wladwriaeth yn peri iddo gael ei fawr barchu gan luoedd, ond yn enwedig gan ei frodyr yn y weinidogaeth, fel y rhoddent, yn wirfoddol, y flaenoriaeth iddo, yn enwedig yn y pulpud. Gellid dywedyd am dano megys am y tri cyntaf o gedyrn Dafydd, na chyrhaeddodd neb mo hono. Dywedai un am dano, "Fod pob rhagoriaethau yn ei ddoniau: dyfnder defnyddiau, grym a phereidd-dra llais, ac eglurdeb a bywiogrwydd yn traddodi dyfnion bethau Duw, nes peri syndod, a'r effeithiau mwyaf rhyfeddol ar ei wrandawyr." —Bu farw yn y flwyddyn 1790, yn ddwy ar bymtheg a thriugain oed.

YMOF. A oes hanes i Rowlands ddyfod i Sir Gaernarfon?