Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

SYL. Naddo; ac ni dderfydd chwaith tra byddo hâd yn wraig o fewn cyrhaedd i'r ddraig a'i hâd eu drygu.

YMOF. Ond pa ddichell ymhellach a arferwyd i geisio atal pregethiad yr efengyl? Dymunaf i chwi adrodd yn mhellach rai o'r pethau mwyaf neillduol am yr erlidigaethau yn y dyddiau hyny.

SYL. Dygwyddodd unwaith i ryw gynifer fyned o Leyn i Sir Fôn i wrando Mr. Daniel Rowlands, sef y tro hwnw ag y rhwystrwyd ef i bregethu yn Llangefni; ac wrth ddyfod yn ol yr oedd torf o erlidwyr yn dysgwyl am danynt yn Llanaelhaiarn, a churasant hwy yn ddidrugaredd, fel pe buasent gwn cynddeiriog, nes oedd eu gwaed yn llifo, a rhai o honynt yn cwympo oddiar eu ceffylau; a chafodd y rhai oedd ar eu traed y cyffelyb driniaeth. Wedi i William Prichard symud o Lasfryn fawr i Blas Penmynydd, yn Môn, cafodd yno ei ran yn helaeth o'r erlidigaeth. Dryllid ei erydr a chêr y ceffylau yn y nos; a thrafferth fawr fyddai ceisio llafurio y tir gan elyniaeth yr ardal. Daeth Mr. Benjamin Thomas ryw Sabbath i bregethu mewn tŷ gerllaw yno, sef Minffordd, yn agos i Sarn fraint, ac ymgasglodd torf o erlidwyr i aflonyddu y cyfarfod, a ffyn mawrion yn eu dwylaw, ac ar un o honynt ben o haiarn, A chyda bod y gwr yn dechreu pregethu, tafodd un o honynt lestraid mawr o ddwfr ar ei ben, ac yna dechreuasant guro â'u holl egni, fel pe buasent yn lladd nadroedd. Fel yr oedd Mr. B. Thomas yn ddyn cryf a bywiog, gadawodd hwynt oll wrth redeg; a diangodd oddiarnynt heb gael nemawr o niwaid.

Bryd arall ymgasglodd lluaws o erlidwyr creulon at dŷ W. Prichard, mewn bwriad i'w ladd. Rhuthrodd rhai o honynt i'r drws, gan ofyn yn llidiog i'r wraig, "Pa le mae dy bengrwn di?" Atebodd hithau, nad oedd efe gartref (canys yr oedd ef y pryd hyny wedi myned ar ryw achos i Sir Gaernarfon,) a chan na chawsant ef, nid oedd ganddynt ddim i'w wneuthur ond dryllio y ffenestri, a gwneyd pob galanastra ag a allent ar ei feddiannau. Symudodd W. Prichard oddiyno i le a elwir Bodlew, gerllaw Llanddaniel. Byddai raid iddo gadw ci mawr i'w amddiffyn ar hyd y ffyrdd, gan mor lidiog oedd trigolion ye ardaloedd. Anogodd y diafol un dyn o Niwbwrch i brynu cyllell fawr yn Nghaernarfon, gan fwriadu ei ladd yn ddilai, ac aeth i'w dy ef i'r dyben hyny: a pha beth a ddygwyddodd fod yn y cyfamser ond gwr y tŷ yn darllen pennod ac yn gweddio gyda'i deulu. Synodd y dyn yn ddirfawr, a dywedodd ynddo ei hun, "Os peth fel hyn y mae y rhai hyn yn ei wneuthur, yn enw y Gŵr goreu ni wnaf ddim iddynt." Cyfaddefodd y dyn ei fwriad gwaedlyd, ac aeth adref yn heddychol. Symudodd W Prichard drachefn o Fodlew i Glwch dyrnog, lle y