Gwirwyd y dudalen hon
Ond gan ei fod yn wr o feddwl gwrol, ac o ddygiad boneddigaidd i fyny, methasant ei wrthsefyll. Yna yn ebrwydd safodd i fyny, a rhoes y gair hwnw o'r Salm allan i ganu,
"Yr Arglwydd biau'r ddaear lawr,
A'i llawnder mawr sydd eiddo.
Yr Arglwydd biau yr holl fyd,
A'r bobl i gyd sydd ynddo."
Cerddodd y fath awdurdod gyda'r gair, nes oedd gwŷr y pastynau a'r cyrn yn taflu pob peth o'u dwylaw; ac wedi eu dal gan ddychryn, dechreuasant nesu ymlaen, a gwrandawsant