Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn llonydd hyd ddiwedd y cyfarfod. Tan y bregeth yma y dychwelwyd Owen Thomas, Rowland a Richard Hughes, dau ddyn hynod mewn duwioldeb a zêl dros achos Duw; ac ar ol hyny goddefasant lawer o gam a gorthrymder.

Cyn gadael hanes Mr. Peter Williams, adroddaf am y dirmyg a gafodd mewn lle elwir Trefriw, yn agos i Lanrwst. Beth a wnaeth y dorf anifeilaidd, ond diosg clôs y gŵr, a'i lenwi â soeg. Dygwyddodd fod yn eu mysg un dyn tra nerthol; ac wrth weled y fath ffieidd-dra enynodd ei ddig yn ddirfawr yn erbyn yr ynfydion gwallgofus, a gwaeddodd allan, "Ffei! dyma ffieidd-dra na welwyd erioed ei fath!" a dechreuodd chwalu y dorf o'i gwmpas fel gwybed. Cymerodd y clôs, gan dywallt y у soeg o hono, a'i lanhau, ac ymgeleddodd y pregethwr. Ac wedi y cyfan pregethodd Mr. Williams yn wrol, ac ni feiddiodd neb ei aflonyddu, gan arswyd y gŵr oedd yn ei amddiffyn.

Gan fod yr hyn a adroddwyd uchod wedi dygwydd yn ardal Llanrwst, fe allai na byddai yn anfoddhaol genych glywed ychydig yn nghylch y bregeth gynaf a fu yn y dref hono. Yr oedd pregethu wedi dechreu yn fore mewn lle a elwir Crafnant: a byddai rhai o Lanrwst yn myned yno i erlid. Meddyliodd rhywrai am gynyg pregethu yn y dref, a chawsant genad i ddyfod i ryw dy yno. Pan y daeth y noswaith bennodol, safodd cryn nifer o'r erlidwyr ar y bont i ddysgwyl y pregethwr, mewn bwriad i'w daflu i'r afon. Ond wedi deall am y cynllwyn, trosglwyddwyd y pregethwr mewn cwch tros yr afon. Mewn llofft yr oedd y cyfarfod; dechreuwyd yr oedfa trwy ganu mawl a gweddïo, yn darllenodd y gŵr ei destyn, sef y geiriau canlynol:—"Wele yr wyf yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr," &c. Ond cyn iddo gael llefaru nemawr, cododd yno derfysg nid bychan; ac ymegnïodd rhai i geisio dyfod trwy y dyrfa at y pregethwr. "Pan ddeallodd gŵr y tŷ na chaid llonydd, diffoddodd y canwyllau, a chuddiodd yr athraw mewn cist, a chlô arno. Bu yr erlidwyr yno hyd y plygain yn chwilio am dano, ond methodd ganddynt ei gael. Enw y pregethwr oedd Morris Griffith. Aeth at yr Ymneillduwyr wedi hyn, a bu yn weinidog parchedig yn Sir Benfro hyd ei farwolaeth. Bu Llanrwst, yn enwedig y dref, amser maith ar ol hyn heb i neb gynyg pregethu yno; ond byddai ambell oedfa yn achlysurol yn mhlwyf Llansantffraid, Llanfairtalhaiarn, Llanddoged, Penmachno, &c. Nid oedd y pryd hyny ond ychydig yn Ngwynedd wedi derbyn doniau i bregethu; ambell un o'r Deheudir, yn awr a phryd arall, a fyddai yn dyfod atynt. Tua'r amser hwnw yr oedd gwr yn byw yn mhlwyf Llanrwst, mewn lle a elwir Bryniog uchaf, un John Richards, yr hwn oedd brydydd rhagorol; ac o herwydd