Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymydogaeth. Parhaodd yn yr agwedd arawydus hono hyd ddydd ei farwolaeth. Gwas a ymrysona â'i Luniwr!

Gan fy mod eisoes wedi dyfod a'r hanes mor belled a chwr Sir Ddinbych, adroddaf i chwi hanes tra rhyfedd a ddygwyddodd yn more y diwygiad yn y wlad hòno. Yr oedd un o'r enw Lewis Evan, pregethwr teithiol, wedi addaw dyfod i bregethu ar ryw brydnawn Sabbath, ar fryn ger llaw y ffordd o Wytherin i Lansannan. Yr oedd yn y cyfamser wr yn byw gerllaw a fyddai yn ymhyfrydu yn fawr mewn cellwair a choeg ddigrifwch. Meddyliodd hwnw unwaith am fyned i'r Llan: ond ofnodd y delid ef yn rhy hir, os âi ef yno, ac y collai y difyrwch o wawdio y pregethwr. Wedi aros ychydig yn y dafarn, aeth tua'r lle yr oedd y cyfarfod i fod ynddo: a chan nad oedd yno neb wedi dyfod, gorweddodd i lawr, a chysgodd. Yn mhen ennyd, daeth yno wr arall, cyn i'r bobl ymgynull yn nghyd, a chanfu y dyn a ddaethai o'r dafarn, yn cysgu. Rhodiodd y gŵr i fyny ac i waered ar hyd y bryn i aros i'r bobl ddyfod yn nghyd; ac wrth edrych o'i gwmpas, canfu welltyn praff, megys wedi ei blanu yn y ddaear; ymaflodd ynddo, a chanfu yn ebrwydd mai powdwr oedd ynddo, ac wedi iddo gloddio â'i law, cafodd dywarchen fechan, a phowdwr oddi tani, a ffôs neu rigol fain yn cyrhaeddyd i ben y bryn, a phowdwr ynddi o benbwygilydd; ao ar ben y bryn le crwn wedi ei dori yn y ddaear, o gylch dwy droedfedd drosto, ac ynddo lawer o bowdwr, a gwellt yn ei orchuddio yn dra chywrain, a thywyrch wedi eu rhoddi yn drefnus ar bob man, fel na byddai i neb amheu fod yno un math o berygl. Darfu i'r gwr a ganfu y gwelltyn grafu ymaith y powdwr yn llwyr, a dodi y tywyrch yn eu lle fel o'r blaen, a'r gwelltyn hefyd a ddododd efe yn ei le fel y cawsai ef. Erbyn hyn, yr oedd y pregethwr a'r bobl yn dyfod; a safodd y gwr i bregethu yn gymhwys ar y fan yr oedd y powdwr wedi ei guddio ynddo. Yr oedd y gŵr a ganfu y bradwriaeth yn sylwi yn fanwl pwy a ddeusi at y lle yr oedd y gwelltyn ynddo: ac yn mhen ychydig, dyna ddyn yn rhedeg, a gwisg certiwr am dano, a mwg o'i gwmpas; a phan gyrhaeddodd hyd at y gwelltyn, dechreuodd chwythu ei dân. Erbyn hyn dyma y gŵr a ganfuasai y ddichell yn gwaeddi arno, "Methaist genyt dy gast y tro hwn." Felly amddiffynodd Duw ei bobl megys yn wyrthiol y pryd hyny. Gwas i gyfreithiwr oedd y dyn a ddaeth â'r tân, ond pa un ai efe ai ei feistr oedd ddyfnaf yn y ddichell, dydd y farn a'i dengys.

YMOF. Rhyfedd yr elyniaeth ysgeler, a'r dichellion uffernol oedd yn bod y dyddiau hyny, fel bob amser, yn erbyn crefydd! Y mae yr helyntion a adroddasoch yn dwyn i'm cof eiriau yr Apostol, "Yr Arglwydd a fedr wared y duwiol rhag