Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i'w poeni."-Cyn i chwi adael ardaloedd Dinbych a Fflint, gadewch glywed eto rai o'r pethau mwyaf hynod a ddygwyddasant yno.

SYL. Pan wynebwyd gyntaf i gynyg pregethu yn nhref Dinbych, ymosododd trigolion y dref a'r wlad i erlid yn dra ffyrnig dros enyd o amser. Byddent, nid yn unig yn curo yr ychydig broffeswyr tlodion ag oedd yn dyfod yno i geisio gwrando y gair, ond hefyd yn eu llusgo i le a elwir Pwll y grawys, i'w rhynu a'u darnfoddi. Un tro, fel yr oeddynt wedi Ilusgo rhyw bregethgwr i'r pwll, ac heb allu canlyn arno fel y dymunent, rhuthrodd un ar ei farch, a chi mawr ganddo, ar fedr ei larpio. Ond wedi iddo anog y ci i rwygo y dyn, yn lle gwneuthur felly, ymaflodd y creadur ffyrnig yn ffroenau y march, ac ni fynai ollwng ei afael. A thra y buont hwy yn ceisio cael y march o afael y ci, cafodd y pregethwr tlawd gyfle i ddiangc o'u dwylaw.-Byddent mor annynol ac anifeilaidd a chodi merched ar eu penau yn y modd mwyaf gwarthus, er gwawd i'r holl edrychwyr. Rhuthrasant i dŷ un Thomas Lloyd, a chymerasant pobpeth oedd ganddo yn ei dŷ, gan eu gwerthu oll yn y farchnad, a gadael y gŵr a'r wraig rhwng dau bared moel, i ymdaro fel y gallent. Ond er ei yspeilio o'r cyfan oedd ganddo, ni adawodd Duw ef heb ei wobr; canys llwyddodd wedi hyny yn dra helaeth yn ei feddiannau bydol. Cyn darostwng y terfysgwyr yno, bu gorfod defnyddio y gyfraith; a drud iawn a fu y tro i rai lled uchel eu sefyllfa; ond diangodd rhai o'r wlad rhag ofn, ac ni ddychwelasant byth yn ol.

Yr oedd yn byw yn Henllan, gerllaw Dinbych, ŵr a gwraig a anturiasent dderbyn pregethu i'w tŷ, yn ngwyneb llawer o erlid a gwawd, ac o radd i radd, cynyddodd yr elyniaeth i'r fath greulondeb fel y taflwyd hwy allan. Ond gofalodd yr Arglwydd am ei achos, ac am danynt hwythau, fel y cafwyd lle i adeiladu tý iddynt, ac i dderbyn yr efengyl; ac yn y lle hwnw buont fyw yn ffyddlon a chysurus 33 o flynyddoedd. Eu dymuniad gwastadol oedd cael gweled lle helaethach i bregethu yr efengyl cyn eu marw; a chawsant eu deisyfiad, sef capel helaeth a threfnus, a lluaws mawr o wrandawyr ynddo. Gwysiwyd y gŵr amryw weithiau, gan ei fygwyth a'i wawdio, a dywedyd y byddai raid iddo fyned yn filwr ar un o longau y Brenin. Un tro nodedig, pan oedd yn gorfod iddo ymddangos yn Llanelwy, a'i feddyliau yn isel a therfysglyd, daeth yr ysgrythyr yma gyda grym i'w feddwl, "Na ofelwch pa fodd, neu pa beth a lefarwch; canys rhoddir i chwi yn yr awr hono pa beth a lefaroch." Ac fel yr