Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd y penaethiaid wedi ymgynull yn nghyd i drin ei fater, daeth taran ddychrynllyd yn y cyfamser, ac a barodd y fath arswyd, fel y daeth glesni ar bob wyneb, a phawb a aethant ymaith gyda braw, a chafodd yr hen wr fyned adref yn heddychol. Bu ef a'i wraig fyw i oedran teg, a buont feirw mewn tangnefedd megys tywysenau wedi llawn aeddfedu.

Un tro, safodd dau ddyn, a phastynau mawrion yn eu dwy, law, wrth bont yn Nyffryn Clwyd, i ddysgwyl pregethwr oedd i ddyfod o ffordd hono, sef Lewis Evan. Tarawodd un o honynt ef yn dra chreulon ar ei ben, nes oedd ei waed yn ffrydio: ond er hyny ni thaflwyd ef oddiar ei farch. Ni wyddai gan y syndod oedd yn ei ben o achos y dyrnod, fod ei waed yn llifo, nes i ryw wraig ei gyfarfod, a gofyn iddo yn gyffrous, "Yn enw y Mawredd, pa beth yw y drefn yna sydd arnoch!" Cyrhaeddodd fel yr oedd at rai o'i gyfeillion i gael ymgeledd, ac i iachâu ei friwiau. —Tro nodedig a ddygwyddodd mewn rhyw dref. Yr oedd rhyw wr wedi addaw dyfod yno i bregethu, ac aeth y gair ar led am ei ddyfodiad. Ymgasglodd torf o oferwyr y dref, yn llawn o zêl erlidigaethus, i ddysgwyl am dano. Yn y cyfamser daeth gwr boneddig mawr ar ymdaith i'r dref; a dygwyddodd fod gan y gwr gadach wedi ei rwymo am ei ben, o herwydd rhyw afiechyd, mae yn debyg. Barnodd y dorf yn ddiamheuol mai hwnw oedd y pregethwr, oblegyd y byddai amryw o'r pregethwyr y dyddiau hyny yn gwisgo cadachau am eu penau; a dyna y nôd a fyddai gan lawer ar bregethwyr. Pa fodd bynag, rhuthrasant ar y gŵr boneddig, gan ei luchio, ei guro, a'i faeddu yn ddidrugaredd; ac yntau wedi synu, ac yn ofni am ei fywyd, yn methu gwybod na deall pa beth oedd ar y gwallgofiaid. Nid oedd wiw iddo waeddi Gosteg arnynt mwy nag ar donau y môr: ond dylynasant ef nes iddo gael tafarn neu ryw le i ddiangc oddiar eu ffordd. Bu arswyd a dychryn mawr arnynt pan wybuant pa fath wr a drinwyd ganddynt mor atgas; ac nid wyf yn sicr a gafodd rhai o honynt eu cospi am y fath ymddygiad gwarthus. Camgymeryd y diwrnod a fu yr achos iddynt ymosod ar y gŵr boneddig. Dranoeth yr oedd addewid i'r pregethwr fod yn y dref; ac o herwydd y braw a gafodd pobl y dref yn acbos y gŵr boneddig, у ni feiddiodd neb ei erlid, ond cafodd fyned a dyfod yn heddychol, heb neb yn ei aflonyddu.—Bu tro lled debyg yn Nghorwen

Yr oedd dau ddyn a fyddent yn arfer prynu moch yn myned trwy y dref ar fore oer iawn, a chanddynt gadachau am eu penau. Dechreuodd pobl y dref ymosod arnynt yn egniol, gan dybied mai pregethwyr oeddynt. Ond beth a wnaeth y rhei'ny ond troi arnynt yn wrol, heb brisio beth a gaent gyntaf i'w dwylaw i'w taflu atynt, nes ffôdd pawb i'w pebyll, megys y gwnaeth yr yspryd drwg gynt â meibion Scefa.