Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rysodd ei synwyrau, a bu orfod ei ddanfon i dŷ y gwallgofiaid; ac yno y bu efe hyd ddydd ei farwolaeth. Bu ei wraig hefyd (yr hon a feddiannodd yr elw o'r plwyf yn absen ei gwr) yn dra gelyniaethol i grefydd, hyd ag yr oedd ynddi: ac ni ddiangodd hithau chwaith, na rhai o'i theulu, heb arwyddion o anfoddlonrwydd Duw tuag atynt. Yr oedd yno wr arall o erlidiwr ysgeler, ac yn dylyn puteindra gyda gwraig ei gymydog. Ei enw (byd yr wyf yn cofio) oedd Edward Hughes. Dygwyddodd un tro fod pregethwr, yn ei athrawiaeth, yn datgan bygythion Duw allan o'r gair yn erbyn amryw bechodau ffaidd; ac yn mysg ymadroddion ereill, gwaeddodd allan, "O buteiniwr!" A chan fod yr adyn hwnw yn euog o'r cyfryw ffieidd-dra, cipiodd lonaid ei law o dom, tharawodd y pregethwr yn ei wyneb, gan ddywedyd, "Pa fodd y gwyddost ti am danaf fi?" Parhaodd ¡ erlid: ond ar ryw Sabbath, wedi bod yn y dafarn, ac wedi hyny yn erlid; tarawyd ef yn ei gwsg â math o fitiau dychrynllyd y noswaith hono, fel y byddai raid ei rwymo ef a rhaffau; ac ni chafodd iachâd o honynt hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd yno ŵr arall hefyd a elwid Thomas Jones, yr hwn oedd yn erlidiwr gair Duw, a'i achos: ond cyn pen hir, cyrhaeddodd llaw yr Arglwydd yntau hefyd; canys un diwrnod, fel yr oedd yn y maes, tarawyd ef yn ei forddwyd gan ryw farn anweledig, fel y gorfu ei ddwyn of i'w dŷ, lle y gorweddodd chwe' mis. Ac er na ddychwelodd at yr hwn a'i tarawodd, eto cyfaddefodd mai erlid crefydd a ddygodd y farn arno. —Nis gallaf lai na chrybwyll yma am wraig weddw oedd yn byw yno fel Lot yn Sodom. Ei henw oedd Jane Jones. Bu yn fammaeth ymgeleddgar i achos Duw yn y dref hono tra bu hi byw; heb neb yn ei chynorthwyo am lawer o flynyddoedd. Hi oedd yr un a agorodd ei drws gyntaf i'r efengyl yno. A'r noswaith gyntaf y derbyniodd bregethu i'w thŷ, torwyd ei holl ffenestri, a thynwyd un o'i llygaid. Ond er chwerwed oedd y croesau, ei phenderfyniad oedd fel Lydia, "Deuwch i'm tŷ." Cafodd'hi a'i dau blentyn eu cynal yn ddigonol er syndod i lawer pa fodd yr oeddynt yn gallu byw. "Y rhai a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni."

Parhaodd yr erlid yno (er mai nid yn yr un graddau o greulondeb ag ar y dechreu) nes y daeth Ysgol rad i gael ei chadw yno: a mawr a fu yr helbul i gael ei dechreu, o herwydd llid a gwrthwynebiad gwraig y ficar a'i churad. Ond wedi ei dechreu, daeth yno lawer o blant, a llarieiddiodd y dref a'r ardal o radd i radd, fel y daethant yn fwy moesol a thueddol i wrando y gair. Ond yn fwyaf neillduol, ysgol y nos a fu yn offerynol, drwy fendith yr Arglwydd, i dori rhagfarn yr ardaloedd at grefydd. Cedwid hi ddwywaith yn yr wythnos, a deuai iddi luaws mawr o bobl ieuaingc, heblaw plant; ac at ddiwedd yr