Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgol, erbyn yr elid i gateceisio, byddai yno nifer mawr o hen bobl: ac mae allan o ddadl i Dduw, er mwyn ei enw, ac er achub eneidiau, wneuthur y moddion gwael hyny yn fendith i lawer. Y mae y tô hwnw wedi myned adref oll, a llawer o honynt wedi gadael tystioliaeth eglur o'u hol y gwyddent fod eu Prynwr yn fyw. Llawer tywydd a fu ar Ruddlan wedi hyny, fel y berth yn llosgi yn dân, a'r berth heb ei difa; a'r achos yw, oblegyd fod Angel mawr y cyfamod yn preswylio ynddi. —Gadawaf ardaloedd Dinbych a Fflint yn bresenol: fe allai y bydd i'r hyn a adroddwyd fod yn foddion i gymhell rhyw rai o'r siroedd hyny i ysgrifenu yn helaethach. Ond nis gallaf lai cyn diweddu nag adrodd un tro nodedig a fu yn ardal Llansannan yn nechreu y diwygiad. Cytunodd deg o wyr lled ieuainge i fyned gyda'u gilydd i wrando pregeth i blwyf Llanfair; ac ni buasai neb o honynt yn y fath gyfarfod o'r blaen. Cafodd y deg eu galw a'u deffroi am eu cyflwr; a chawsant y fraint o fod yn harddwch i'w proffes, ac yn ddiwyd a ffyddlon hyd angeu, oddieithr un neu ddau o honynt. Un o'r deg oedd yr hen bererin duwiol, Edward Parry, a fu yn athraw defnyddiol, ac yn ymgeleddwr i achos Duw hyd ddiwedd ei ddyddiau; ac y mae ei goffadwriaeth yn barchus hyd heddyw.

YMOF. A arferwyd rhyw ddichellion heblaw amherchi cyrph dynion, tuag at atal pregethu yr efengyl?

SYL. Do, yn ddiau, amryw ffyrdd. Weithiau trwy deg, eu perswadio i ochel cymeryd eu twyllo i adael ffydd yr Eglwys, ac i wadu eu bedydd. Bryd arall bygythid hwy yn dra ffyrnig: oni pheidient y byddent yn gas gan bawb; ac y gwnai y mawrion yr hyn a allent o ddrwg iddynt. Pregethai yr Eglwyswyr yn eu herbyn; gan eu dynodi yn dwyllwyr, yn gau brophwydi, yn hereticiaid, ac mai hwy yw y rhai y dywedir am danynt eu bod yn ymlusgo i deiau, yn llwyr-fwyta tai gwragedd gweddwon, a hyny yn rhith hir weddïo, a'r cyffelyb. Codwyd amryw o leoedd eu preswylfod, heb un achos ond eu bod yn glynu yn eu proffes. Anfonwyd gwarantau allan i ddal cynifer a ellid cael gafael arnynt, gan eu herlid allan o'r wlad yn sawdwyr. Ni feiddiai amryw o honynt gysgu yn eu gwelyau dros hir amser, rhag rhuthro arnynt ganol nos. Bu un o honynt, sef Hugh Thomas, yn gorfod ffoi tua Chaernarfon a Llanberis. A phan wybu nad oedd allan o'r perygl yno, ymroddodd i ddyfod adref, deued a ddelai. Bu rhyw gymydog mor dirion a gwneuthur math o luest iddo mewn clawdd, a swp o wellt yn lle dôr arno, lle y treuliodd chwech wythnos o amser, nos a dydd, yn y sefyllfa anghysurus hono, fel y rhai hyny gynt, "Mewn tyllau ac ogofeydd y ddaear." Byddai raid i'r wraig ddwyn lluniaeth iddo yn ddirgelaidd iawn, rhag i neb fynegi neu ddatguddio y