Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A chan fod hanesiaeth yn ddiamheuol yn mhob oes, ac yn mhob gwlad mor fuddiol ac adeiladol, a raid i'r Cymry uniaith gael eu cau mewn tywyllwch ac anwybodaeth am y pethau rhyfedd a wnaeth yr Arglwydd yn eu plith.

Y mae yn eithaf gwir ddarfod i rai yn y Deheudir fod yn ddiwyd a llafurus i gasglu ynghyd gryn lawer o hanes y Cymry yn yr iaith Gymraeg (i ba rai yr ydym yn dra rhwymedig,) ond gan eu bod yn byw yn mhell, ac yn ddyeithrol am lawer o bethau a ddygwyddasant yn Ngwynedd, mewn perthynas i grefydd, yn y ddwy ganrif ddiweddaf; a chan fod llawer o bethau teilwng iawn o fod mewn coffadwriaeth heb son am danynt mewn ysgrifen gan neb mwy na'u gilydd; wrth ystyried hyny, a gweled pawb yn esgeuluso, anturiais (trwy gael llawer o anogaethau) gymeryd y gwaith mewn llaw, i osod allan, hyd y gellais, y pethau mwyaf nodedig a neillduol a fu yn mysg crefyddwyr siroedd Gwynedd: ond yn beth helaethach am wlad fy ngenedigaeth, am fy mod yn fwy hysbys o'r helyntion a fu ynghylch crefydd yno nag yn un lle arall: ond ni ddarfu i mi yn wirfoddol esgeuluso y siroedd ereill, heb goffau am y pethau mwyaf eu pwys a ellais i gasglu, a fu ynddynt mewn perthynas i grefydd er dechreuad y diwygiad yn Nghymru, a manau ereill; sef, tua'r flwyddyn 1739. A chan fy mod yn rhy anghyfarwydd yn y Deheudir i roddi nemor o hanesiaeth cywir ynghylch crefydd yno, am hyny gorfu arnaf adael heibio; ond yn unig coffâu am rai personau o'r wlad hono, a fu yn enwog yn ein mysg. Diau hefyd i mi adael allan lawer o bethau teilwng o'u coffâu, mewn siroedd ereill, heb grybwyll am danynt, o achos na buaswn yn fwy adnabyddus o honynt. Ond fe allai y caiff rhyw rai, yn y Dehau a'r Gogledd, eu tueddu i ysgrifenu yn fwy trefnus a chyflawn na myfi, hanesyddiaeth crefydd yn ngwlad ein genedigaeth.

Gallaf ddywedyd fod hyny hefyd yn beth anogaeth i mi ysgrifenu yr hanes fel y gwnaethum; sef clywed ambell un yn adrodd rhyw bethau ynghylch crefydd heb fod agos yn gywir, ond yn eithaf gwyrgam a chamasyniol. Ac oni buasai i rywun achub hanesiaeth o ddwylaw y rhai oedd yn ei bradychu, ac yn ei hystumio i bob agwedd anghywir, yn ol eu dychymygion, wrth geisio ei gosod allan, diau y gallai llawer fod mewn petrusder am y cyfan y maent yn ei glywed, am fod cymaint o anghysondeb yn yr adroddiad o honynt. Nid wyf