Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lle yr oedd. Ond cafodd ei ryddhau yn ol hyny trwy ffafr un o fawrion y wlad. Daliwyd un pregethwr, a elwid Hugh Griffith, gerllaw Aberdaron, gan ddau ddyn awyddus i'r gorchwyl; ond gan ei fod yn ddyn bywiog, chwimwth, diangodd o'u dwylaw; methodd ganddynt (er iddynt braidd golli eu hanadl yn rhedeg) a'i oddiweddyd; ac fe aeth drosodd i Fôn, ac a wladychodd yno hyd ddydd ei farwolaeth. Ond er i lawer gael eu cuddio rhag eu dal yn y rhwyd, er hyny daeth amryw i'r fagl. Yn mysg ereill, un Morgan Griffith, yr hwn fyddai yn arfer ei ddoniau i bregethu yn achlysurol, yn yr un gymydogaeth. Pan y dygwyd ef i Bwllheli, ger bron yr Ustusiaid, a'r rhagswyddwyr, daeth a'i blant bychain mewn cewyll i'w gosod ger bron y swyddwyr; yr oedd hefyd wedi claddu ei wraig yn ddiweddar; ac er y cyfan, nid oedd gradd o dosturi yn cael ei ddangos tuag ato ef na'i rai bach amddifaid: canys, fel y dywed Solomon: "Tosturi y drygionus sydd greulon." Gadawyd hwynt ar yr heol, o'u rhan hwy, heb lygad i dosturio wrthynt. Ond, yn ol ei addewid, Tad уг amddifaid yw Duw. Gofalodd Rhagluniaeth am danynt oll: ac y mae rhai o'i hiliogaeth, yn bresenol, mewn amgylchiadau cysurus ac yn barchus yn eu hardal. Ond er pob peth, myned a orfu arno ef, druan gwr, gyda bagad o'i gyfeillion, ar eu taith tua gwlad y Saeson. Rhoddwyd hwy oll i letya yn ngharchar Conwy, heb ddim ond gwellt i ymdrôi ynddo. Pan glywodd trigolion y dref am eu dyfodiad yno, ymgasglodd lluaws o honynt, a llusernau yn eu dwylaw, i gael golwg arnynt. Yr oeddynt hwythau, erbyn hyn, wedi cysgu yn eu lludded; ond darfu iddynt ddeffro yn ebrwydd wrth ddadwrdd y dorf a ddaethai i'w gweled. Cododd Morgan Griffith i fyny, ac a'u cyfarchodd yn debyg i hyn: "Myfi feddyliwn mai i'n gweled y daethoch. Mae i chwi gyflawn groesaw. Fe allai na byddai yn anfoddhaol genych glywed am ba beth y cawsom ein gyru yma. Bydded hysbys i chwi oll, mai nid am un trosedd yn erbyn cyfraith ein gwlad: ond am ddarllen yr ysgrythyrau, gweddïo, a chanu mawl i Dduw, a chynghori ein gilydd i geisio yr Arglwydd tra gellir ei gael, a galw arno tra fyddo yn agos, yr ydym yn cael ein gyru o'n gwlad, ac oddiwrth ein teuluoedd, heb ddysgwyl eu gweled byth mwy. Ond y mae ein cydwybodau yn dawel; ac yr ydym yn llawen am ein cyfrif yn deilwng i ddyoddef anmharch er mwyn ei enw ef." Ac â chyfryw ymadroddion y cynghorodd ac yr anogodd efe hwynt i ymofyn am wir dduwioldeb, fel y gallent ddiangc rhag y digofaint sydd ar ddyfod. Ymaflodd y gair mewn modd deffrous yn meddyliau gwr ieuaingce heinif oedd yno. Methodd ganddo gael y saeth o'i gydwybod yn llwyr, er gwaethaf y diafol a'i hudoliaethau, yn nghyda llygredd ei galon ddrygionus ei hun. Bu lawer o flyn-