Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yddoedd heb wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Ac er bod yr hâd yn hir megys yn guddiedig yn y ddaear, er hyny torodd allan yn amlwg mewn amser. Bu y gŵr yn ddefnyddiol yn ei hen ddyddiau dros achos yr efengyl yn ardal dywyll Dwygyfylchi; cadwodd ei ddrws yn agored i bregethu yr efengyl hyd ddydd ei farwolaeth: ac y mae ei deulu, y rhai sydd barchus a galluog yn y byd, yn parhau i wneyd yr un modd.

Ryw dalm o amser o flaen hyn, bu erlid creulon mewn lle a elwir Tŷ ceryg, yn Aberdaron. Daeth Mr. Lewis Rees, o'r Deheudir, yno i gynyg pregethu. Erbyn dyfod i'r lle, yr oedd yno dorf ddirfawr o erlidwyr; ac un Mr. Morris Griffith yn flaenor arnynt. Pan ddaeth Mr. Rees i'r lle, cyfarfu Mr. Griffith ag ef a'i gleddyf noeth yn ei law. "Pa beth," ebe fe, "os dywedi air yma heddyw, myfi a'th redaf â'r 'cleddyf." Atebodd Mr. Rees, yn addfwyn, "Yr ydych yn llaw gwr arall, Syr." Gyda y gair hwnw gostyngodd ei gleddyf i lawr, fel pe na buasai grym ynddo i'w ddal i fyny yn hwy. Ond yn mlaen â'u gorchwyl ysgeler yr aeth y dyrfa afreolus; i guro a baeddu, nid yn unig y pregethwr, ond hefyd cynifer o broffeswyr ag, oedd yno yn bresenol. Y merched, trwy gael eu hanog, oeddynt yn hytrach yn waeth na'r dynion. Cawsanty pregethwr i lawr yn fuan. Gorweddodd un arno rhag ofn iddynt ei ladd, gan dderbyn y dyrnodiau yn ei le. Ar ol i'r terfysg lonyddu ychydig, llusgasant Mr. Roes i ryw dy, i'w gadw yn garcharor hyd dranoeth. Dygwyd ef oddi yno o flaen ustus, a'r hen_Ganghellwr creulon a ymddygodd tuag ato yn dra ffyrnig. Er y cyfan cafodd ddychwelyd adref heb lawer iawn o niwaid. Gorfu rhoddi Mr. Morris Griffith yn llaw y gyfraith. Daeth swyddog o Sir Ddinbych i'w ddal; ac er ei fod yn ddyn cryf o gorpholaeth, ac yn peri ei arswyd yn nhir y rhai byw, er hyny pan ymaflodd y swyddog ynddo, dflanodd fel bretyn dan ei law. Och, mór egwan a brawychus yw cydwybod euog!

Goddefwch i mi adrodd ychydig yn rhagor o bethau, a ddygwyddasant yn fwy diweddar. Lluniwyd cyfarfod i bregethu nid ymhell oddiwrth Benmorfa. Erbyn dyfod yn nghyd nid oedd fawr hamdden i gynyg pregethu, gan dorf afreolus a ddaethai yno i derfysgu ac i erlid. Yr oedd yn eu mysg ddyn ieuangc, oedd yn tra rhagori ar bawb ereill oedd yno am gellwair, gwawdio, a dirmygu y gwaith hyd y gallai. Nid wyf yn sicr a gafodd ef weled haul yn codi, cyn gorfod ymddangos yn y farn, yn adyn truenus fel yr oedd. Parodd hyny fraw yn meddyliau amryw yn y gymydogaeth.

Nid yn mhell o'r un ardal yr anturiodd gŵr dderbyn pregethu i'w dŷ, er bod y wraig foneddig oedd berchen y lle yn byw yn lled agos ato: ac er bod yno bregethu er's amryw