Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flynyddoedd, mae yn lled sicr nad oedd y wraig foneddig yn gwybod hyny; ond dygwyddodd i ŵr urddasol o gyfaill iddi ddyfod i ymweled â hi, a chymerodd ei daith un bore i ymweled âg eglwyswr ieuangc oedd yn y gymydogaeth. Yn mysg ereill o'u hymddiddanion, adroddodd y gŵr ieuangc wrtho fod pregethu yn nhŷ tenant i'r wraig foneddig, a hyny nid yn mhell oddiwrth ei phalas; a'i fod yn ofni yn fawr nad oedd neb mor ffyddlon a mynegi iddi. "A ydyw y peth yn wir?" ebe y gŵr urddasol. "O ydyw," meddai y llall, "yn ddigon sicr." Dywedodd yntau, Wel, ni fwytaf fi fy nghiniaw heddyw nes ei gwneyd yn hysbys." Ac felly y gŵr a ddychwelodd yn ol i'r palas. Erbyn ei ddyfod yno gofynodd y morwynion rywbeth iddo; ond ni chawsant un ateb ganddo er gofyn eilwaith ac eilwaith. Cyffrôdd y rhai hyny, a rhedasant i alw ei briod i lawr o'r llofft. Daeth hòno ar frys ato, mewn braw a dychryn, fel y gallwn feddwl, gan ddymuno arno ddywedyd rhywbeth wrth hi; ond ni ddywedodd efe ddim wrth hòno na neb arall tra y bu byw! Bu farw yn mhen ychydig ddyddiau, heb ddywedyd eto fod y tenant tylawd yn derbyn pregethu i'w dŷ. Cafodd hwn a'i wraig lonydd o hyny allan i gadw eu drws yn agored i'r efengyl hyd ddydd eu marwolaeth.

Ni allaf lai na dwyn ar gof i chwi am ddau dro tra neillduol a ddygwyddasant yn Arfon. Cytunwyd â gwraig oedd yn cadw tafarn, mewn lle a elwir y Dolydd Byrion, i gael cynal cyfarfod misol yn ei thŷ. Erbyn dyfod yno at yr awr a bennodasid i bregethu, yr oedd y tŷ yn llawn o ddynion o bell ac agos, a ddaethent yno yn fwriadol, mewn eithaf gelyniaeth, i rwystro y gwaith: ac amryw o fawrion yn eu plith. Dygasent gyda hwy ryw nifer o ynau a thabyrddau; offerynau tra amberthynasol i amddiffyn yr Eglwys; oblegyd dan y lliw o wneuthur hyny, mae yn debyg, yr oeddynt wedi dyfod yn nghyd. A chan na chaid lle yn y tŷ, nac yn agos ato, i gynyg pregethu, cyhoeddodd rhywun yn y drws, ar fod i bawb oedd yn chwennych gwrando, ddyfod i le gerllaw yno, a elwid Rhos Tryfan. A chyn dechreu y cyfarfod, dyma swn y tabwrdd yn dyfod ar ein hol; ac yn mhen enyd aeth yn gwbl ddystaw. Cyn pen nemawr clywem ei thrwst yn dynesu atom eilwaith; ac eto yr oeddym yn methu deall ei bod fawr nês nag o'r blaen. Clywsom wed'yn beth oedd yr achos na ddaeth y gwr a'r tabwrdd hyd atom: wedi dyfod tua chan' llath oddiwrth y tŷ, dechreuodd y dyn grynu yn arswydus: aethant ag ef yn ol i'r tŷ, gan roddi iddo yr hyn a fynai o ddiod gadarn, tuag at ei wneyd yn ddigon calonog. Rhoddwyd cynyg eilwaith i fyned yn mlaen â'r gorchwyl; ond ni allasant fyned ddim pellach na'r waith gyntaf: dechreuodd y dyn grynu yn