Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bore, pe gollyngwn chwi i mewn." Ond buan y cyrhaeddodd llaw Duw hi am ei thraha a'i chreulondeb; canys cyn y bore yr oedd y tŷ yn wenfflam, a braidd gymaint ag oedd ynddo yn lludw. Yr oedd y tŷ yn y pen nesaf i'r afon o rês o dai oeddynt i gyd yn gydiol a'u gilydd. Troes y gwynt, yn y cyfanser, i chwythu ymaith y tân a'r gwreichion, oddiwrth y tai ereill; pe amgen, buasai y rhai hyny yn debyg o gael eu llosgi oll. Dychwelodd y gwynt yn ol cyn y bore, i'r lle y buasai am lawer o ddyddiau cyn hyny; a lle yr arosodd lawer o ddyddiau wedi hyny hefyd.

Dranoeth, ar ein taith tuag adref, fel yr oeddym yn dyfod trwy dref Harlech, cododd y trigolion fel un gŵr i'n hergydio â cheryg, fel pe buasent yn tybio mai eu dyledswydd oedd ein llabyddio. Tarawsant rai yn eu penau, nes oedd y gwaed yn llifo. Cafodd un ergyd ar ei sawdl, fel y bu yn gloff am wythnosau.

Dywedwyd cryn lawer, yn y Drysorfa, o hanes Dolgelley; ond rhy faith, pe gellid cofio, fyddai adrodd un o lawer o'r helyntion a'r erlidigaethau a ddyoddefodd llawer yno o hen bererinion cywir; pa rai, gan mwyaf, sydd yn awr yn gorphwys yn dawel oddiwrth eu llafur. Gorfu tros rai blynyddoedd fyned yn ddystaw iawn i'r dref, yn y nos, a chadw yr oedfaon cyn dydd, a myned ymaith ar doriad y wawr cyn i'r llewod godi o'u gorweddfaoedd. Byddai un yn aros i fyny trwy y nos, i fyned o amgylch i alw pawb oedd yn caru gwrando, i ddyfod ynghyd at yr amser. Llwyddodd Duw ei waith yn rhyfedd yno, yn wyneb pob stormydd. Ond y mae yno, er's hir amser, bob tawelwch i bregethu yr efengyl.

Bu terfysg ac erlid chwerw iawn mewn cyfarfod misol yn Ffestiniog. Aflonyddwyd y cyfarfod fel na chafwyd pregathu; curwyd a baeddwyd rhai yn dra chreulon. Nid hir y bu y farn heb oddiweddyd y rhai oedd yn blaenori fwyaf yn yr erlid hwnw.

Tro nodedig iawn a fu mewn pentref bychan, a elwir Abergynolwyn. Anturiwyd yno i bregethu ar brydnawn Sabbath. Erbyn dyfod yno, yr oedd golwg lidus, greulon, erlidgar, ar y dorf luosog a ddaethai ynghyd, fel yr oedd yn aeth ac yn ddychryn meddwl wynebu arnynt; canys nid oedd odid un o honynt a welsai bregethwr, nac ychwaith broffeswr erioed yn un lle. Cafwyd llonydd gweddol i gadw y cyfarfod mewn modd annysgwyliedig Ond erbyn clywed pa fodd y cafwyd llonyddwch, canfuwyd fod llaw ddirgelaidd Rhagluniaeth yn sicr yn y tro. Dygwyddodd fod gŵr yn byw yn yr ardal a elwid John Lewis; buasai hwnw dro neu ddau yn gwrando pregethu, ac yr oedd wedi ei dueddu i feddwl ei fod yn waith da. Yr oedd gan y gŵr hwn fab-yn-nghyfraith, (neu fab gwŷn,