Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel y galwent ef,) ag oedd yn aruthrol o gryf. Dywedodd yr hen wr wrtho fod y rhai'n a'r rhai'n yn bwriadu erlid ac amharchu y gŵr dyeithr yno heddyw: "ac (ebe fe,) ni byddai raid i ti ond eu bygwth, mae yn sicr y byddent yn ddigon llonydd." Bu y dyn yn falch o'r swydd; bygythiodd hwynt yn erwin, a pharodd ei arswyd yn nhir y rhai byw. Ni bu y cyfarfod heb radd o arddeliad arno. Ac o hyny hyd heddyw, mae pregethu yn yr ardal, a gradd o lwyddiant ar y gwaith.

Ond cyn gadael Meirionydd, er fod genyf y parch mwyaf i ysgrifenydd y Drysorfa, eto yr wyf yn deall iddo gael yr hanes am y wraig a safodd rhwng y pregethwr a'r erlidiwr, yn amherffaith, ac mewn rhan yn gamsyniol. Fel hyn y bu am y tro hwnw. Yr oedd y cyfeillion yn Nolgelley wedi cael eu herlid yn echryslon y nos Sul o'r blaen, ac un wedi cael ei daro â chareg, fel у bu yn hir mewn llewyg; er nad oedd yno y tro hwnw neb yn pregethu. Y nos Sabbath ganlynol daeth yno ddau i bregethu; a chwi ellwch feddwl na allai natur lai nag ofni. Pa fodd bynag, wedi ymgasglu o'r gwrandawyr i'r tŷ, eisteddodd y wraig, sef Cathrine Owen, yn y ffenestr oedd ar gyfer y pregethwyr, gan ddywedyd yn siriol iawn: "Ni chânt eich taro oni tharawant chwi trwyddof fi." Bu hyn yn rym i feddwl y pregethwyr wrth ei gweled mor ddisigl yn ei hymddiried yn yr Arglwydd. Cafwyd llonyddwch y tro hwn heb ei ddysgwyl.

YMOF. Adroddwch ychydig bellach o'r hyn a alloch gofio am Sir Drefaldwyn: mae'n debyg fod yno ryw bethau wedi dygwydd, teilwng i sylwi arnynt.

SYL. Cododd yr haul yn foreuach ar y sir yma nag odid un o siroedd Gwynedd. Bu Mr. Vavasor Powell, Mr. Walter Cradoc, Mr. Huw Owen, a Mr. Henry Williams, yn ddefnyddiol i daenu yr efengyl trwy amryw barthau o'r wlad hon yn adeg yr erlidigaeth greulon yn amser Charles II. Bu gweinidogaeth Mr. Lewis Rees, yn mhen blynyddoedd ar ol hyny, yn fendithiol i lawer trwy amryw fanau o'r Sir, yn enwedig Llanbrynmair. Nid oes odid fan yn Nghymru y bu y ganwyll gyhyd heb ddiffodd a'r ardal yma. Ar ol i Mr. Howell Harris gael ei ddeffro am ei gyflwr, fel pechadur colledig, noeth, ac agored i ddigofaint Duw dros dragywyddoldeb, a chael datguddiad o Gyfryngwr y Testament Newydd yn ddigonol Waredwr oddiwrth y llid a fydd; ni allodd ymatal heb ddyrchafu ei lais fel udgorn i waeddi ar bechaduriaid, lle bynag y cai afael arnynt, gan eu cymhell i ffoi ar frys i'r noddfa: canys yr oedd y gair fel tân wedi ei gau o fewn ei esgyrn. Tarawodd allan, fel un o feibion y daran, yn ddidderbyn wyneb i'r prifffyrdd a'r caeau, trefydd a phentrefi i ddeffrous argyhoeddi