Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

torwyr Sabbathau, tyngwyr, meddwon, celwyddwyr, &c., gan ddarlunio y farn ofnadwy megys o flaen eu llygaid, a gwreichion tân uffern, mewn ystyriaeth, yn eu plith. Bu yn offerynol i ddeffro llawer o drymgwsg pechod. Yr oedd gallu y nef yn у nerthol weithio trwy ei weinidogaeth. Erbyn hyn yr oedd y diafol a'i weision yn dechreu cynhyrfu, a'r cryf arfog yn ymgynddeiriogi rhag colli ei neuadd. Ond er pob dichell a malais uffernol, llwyddo yr oedd y gwaith.

Yn mhen rhyw gymaint o amser, anturiodd Mr. Harris i Wynedd; ac y mae yn lled sicr mai i Sir Drefaldwyn y daeth gyntaf. Tybia rhai mai yn Llanbrynmair y dechreuodd efe bregethu yn y sir hono. Cafodd amryw eu galw yn yr ardal, a. fu yn ffyddlon a defnyddiol dros eu hoes. Ond daeth rhyw wynt drwg oddiar yr anialwch, ac a ddiffrwythodd y gwaith i raddau mawr dros hir amser. Er hyny yr Arglwydd, o'i ddaioni, a ymwelodd wedyn yn rasol, a'r ardal. Torodd allan ddiwygiad nerthol, a thywalltiadau grymus o alar a gorfoledd, fel tywalltiad o wlaw graslawn. Cafodd lluoedd o ieuengctyd eu galw a'u chwanegu at yr eglwys, fel llu banerog. Oddeutu y flwyddyn 1762 y bu hyn. Y tro cyntaf y daeth Mr. Harris i'r wlad yma, aeth o Lanbrynmair i blwyf Llanwnog; ac oddiyno i'r Tyddyn, yn Llandinam, cartref Mrs. Bowen. Bu yno dderbyniad croesawgar i'r efengyl amryw fynyddoedd: ac y mae llawer o'i hiliogaeth, nid yn unig yn barchus ac yn glyd eu sefyllfa, ond hefyd amryw o honynt yn ddefnyddiol yn yr eglwys. Yn nhŷ y wraig hon y cynaliwyd y cyfarfod neillduol cyntaf yn y sir. Cafodd Mr. Harris lonydd i bregethu yn, neu yn agos i dref Llanidloes y tro cyntaf: ond ar ol hyny, ni chafodd ef na'i frodyr, dros amryw flynyddoedd, ond eu herlid a'u lluchio yn ddidrugaredd. Un tro, pan oedd pregethwr ar ei liniau yn gweddïo, daeth benyw ysgeler, warthus, yn llawn o gythraul, a chanddi yn ei dwylaw gryman drain; cynygiodd hollti y. gwr âg ef: ond goruwchreolodd Rhagluniaeth yr ergyd. Ci mawr gwneuthurwr menyg o'r dref a gafodd y dyrnod, nes tori asgwrn ei gefn. Wrth weled hyn, rhuthrodd perchen y ci ati, a tharawodd hi nes oedd hi yn ymdreiglo ar hyd yr heol. Felly y dybenwyd y terfysg y tro hwnw. Ond y mae yno yn awr, er's llawer o amser, bob llonyddwch i'r efengyl; ac y mae yr eglwys yn siriol ac yn cynyddu.

Tua'r amser cyntaf y daeth Mr. Harris i'r wlad yma cynygiodd bregethu yn agos i'r Cemmaes: a daeth marchog y sir, offeiriad y plwyf, a dau ustus heddwch, a'r cwnstabl gyda hwynt, a llawer o'r gwerinos, i derfysgu ac i'w gymeryd ef i fyny fel drwg-weithredwr. Ond wedi iddynt ei ddwrdio a'i fygwth, gollyngasant ef yn rhydd.