Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar ei ddychweliad yn ol o Sir Feirionydd, pregethodd yn Ninas Mawddwy: ac aeth ymlaen i Fachynlleth, lle y ceisiodd lefaru mewn drws agored uwchlaw y bobl; ond gorfu arno yn fuan roddi heibio, gan swn y dorf yn bloeddio, yn tyngu a rhegi, a thaflu cerig neu y peth cyntaf y caent afael arno. Daeth ato gyfreithiwr, dan ymwylltio, a'i araith yn dra uffernol; ac yr oedd gŵr boneddig, a'r offeiriad hefyd yn yr un yspryd a hwythau, yn flaenoriaid ar y werin derfysglyd: ond er eu holl greulondeb, gwaredwyd ef o'u canol heb gael llawer iawn o niwaid. Parhaodd trigolion Machynlleth a'r ardaloedd, mewn eithaf gelyniaeth at grefydd am lawer o flynyddoedd. Cawsant afael mewn pregethwr unwaith, llusgwyd ef gerbron rhai o'u pendefigion, ac am na ddarfu i'r rhai hyny gospi digon arno i foddio eu cynddaredd hwy, curasant a baeddasant ef eu hunain yn dra chreulon, ac oni buasai i ryw ŵr â mwy o dosturi na hwy ei achub, buasai yn debyg o gael ei ladd ganddynt. Cafodd yr un gŵr ei guro a'i faeddu yn Llan y Mawddwy wrth fyned oddiyno; gorfu arno roi cyflog i ddyn am ei anfon tros Fwlch y groes tua'r Bala. Byddai yn berygl, y dyddiau hyny, i grefyddwyr fyned hyd yn nod i'r farchnad, rhag cael eu herlid gan drigolion y dref. Yn mhen talm o amser wedi hyn, cynygiodd Mr. D. Jones o Langan bregethu yno, ond, allan o law, cyfododd terfysg nid bychan—cipiwyd y Bibl o'i law, ac wedi baeddu ychydig arno, gofynodd rhai o'r mawrion iddo, a wnai efe addaw, os cai fyned ymaith yn heddychlon, na ddeuai efe yno byth mwyach i bregethu. Atebodd yntau yn bwyllog ac yn siriol: "Nid oes un addewid yn perthyn i chwi na'ch tad.". A diau nad oes un addewid i neb mwy nag i'r diafol, os byddant fyw a marw yn eu hannuwioldeb. Gollyngwyd ef yn rhydd, ond ni chafodd bregethu.

Cafodd y dref ei darostwng i adael llonydd i grefydd mewn modd tra rhyfedd. Daeth merch ieuange grefyddol i wasanaethu at ŵr boneddig yn y dref (sef y cyfreithiwr y soniwyd eisoes am dano,) yr hon, trwy ei diwair a'i sobr ymarweddiad, ynghyda'i diwydrwydd gonest, a fu yn foddion i beri i'r gŵr newid ei farn am grefyddwyr. Bu y gŵr mor dirion ar ol hyny a chynyg, o hono ei hun, le i bregethu yn y dref, a'i osod hefyd i'r dyben. A chan fod gan hwn lywodraeth go fawr yn y dref, ac wrth weled y gŵr yma yn dangos tynerwch at grefydd, ni feiddiodd neb yno erlid nemawr hyd heddyw. Faint o fendith a all gweinidog duwiol fod mewn teulu, fel y llangces fechan hono gynt yn nhŷ Naaman y Syriad!

Bu cryn derfysg mewn cyfarfod misol, mewn pentref bychan yn y sir hon, a elwir Manafon. Erbyn dyfod ynghyd i'r cyfarfod, yr oedd yno ddarpariaeth go ryfedd wedi ei barotôi yn eu