Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

herbyn. Gorchymynodd yr eglwyswr parchedig ganu y gloch; danfonodd yn mhell am drum a rhyw Offer ereill, megys padell ffrio, &c., y rhai fyddai debycaf o ddyrysu y cyfarfod. Dechreuodd y ddwy oedfa ar unwaith: y gŵr urddasol yn trefnu у fyddin, a bagad o'r gwerinos dylion yn trin eu celfi trystfawr yn dra ewyllysgar; ac yn eu mysg y clochydd, yr hwn sydd yn rhwym i ddywedyd Amen yn wastad gyda ei feistr. Ond am yr oedfa arall nid oedd arfau milwriaeth hono yn gnawdol, ond yn nerthol, trwy Dduw, i fwrw cestyll i'r llawr: ac ni lwydda un offeryn a lunir yn erbyn yr efengyl. Ac er yr holl drwst a'r terfysg, methasant atal sain Drum yr efengyl. Cafodd y gwrandawyr hamdden i glywed gair y gwirionedd, ac ymadael yn siriol.

D.S. Er na choffawyd yn yr adroddiad uchod ond am ychydig o bregethwyr, yr oedd amryw o'r dechreuad yn cydlafurio o'r Deau a'r Gogledd; a rhyw nifer yn y wlad hono wedi cael eu cymhwyso i bregethu yn eu hardaloedd, a manau ereill hefyd.

YMOF. Crybwyllasoch gryn lawer am y blinderau a gafodd ein hen dadau ar eu taith tua'r bywyd; a pha ryfedd? "canys felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o'ch blaen chwi:" ie, "a phawb sy'n ewyllysio byw yn dduwiol yn Nghrist Iesu, a erlidir." Ond pa beth oedd hyn i'w gydmaru â'r dirboenau a'r arteithiau marwol a ddyoddefodd yr hen ferthyron duwiol yn Itali, Ffraingc, Ynys Brydain, &c.? Dymunwn gael clywed genych yn mhellach, pa fodd yr oedd crefyddwyr yn dyfod yn mlaen yn y dyddiau terfysglyd hyn?

SYL. Llwyddo yr oedd y gwaith er pob moddion a arferid i geisio ei wrthsefyll. Yr oedd proffeswyr y dyddiau hyny yn debyg i'r Hebreaid yn yr Aipht: "Fel y gorthryment hwynt felly yr amlhaent ac y cynyddent." Mae y wir eglwys wedi ei hadeiladu ar y graig, a phyrth uffern nis gorchfygant hi. Yr oedd zêl wresog a diwydrwydd mawr mewn llawer y dyddiau hyny, nid yn unig i fod yn ddyfal i ddylyn moddion gras yn eu hardal, ond hefyd i deithio yn mhell i glywed gair y bywyd. Yr oedd y gair y pryd hyny yn cyrhaeddyd trwodd, ac yn dwysbigo y galon, fel ag yr oedd cellwair a choeg-ddigrifwch, i raddau, wedi cwympo i lawr, fel Dagon o flaen yr arch. Ar ol gwrando athrawiaethau yr efengyl, y rhai a gyfrifid yn fwy gwerthfawr nag aur coeth, eu hadgoffa ac ymddiddan am danynt oedd prif ddifyrwch y rhai grasol y pryd hyny, yn ol cynghor yr apostol, "Dal yn well ar y pethau a glywsent, rhag un amser eu gollwng hwy i golli." Treuliai rhai nosweithiau cyfan i ymdrechu â Duw, fel Jacob gynt. Yr oedd dull eu hwynebau yn tystio fod sobrwydd ac ofa Duw yn meddiannu